S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Hanes Cymru yn "hollbwysig" – rhaglen newydd i fywiogi hanes

30 Hydref 2012

"Mae hanes unrhyw genedl yn hollbwysig. Mae 'na ddyletswydd ar bob cenhedlaeth i gynnal cof y genedl honno." Dyna neges Llinos Griffin-Williams, cynhyrchydd cyfres hanes newydd i blant sy'n dechrau ar S4C heno.

Fe fydd cyfres newydd sbon, Ditectifs Hanes yn dod â hanes Cymru yn fwrlwm byw i blant y genedl. Yn ogystal â diddanu, bydd y gyfres arloesol hon yn addysgu gan gynnig deunydd addysgiadol digidol ychwanegol ar y we ar gyfer athrawon.

Fesul pennod o Ditectifs Hanes, a ddarlledir yn ystod rhaglen Stwnsh, bydd y cyflwynwyr Anni Llŷn a Tudur Phillips, yng nghwmni'r cymeriad cartŵn Hefin Hanes, yn tywys y gwylwyr trwy Gymru benbaladr a thrwy'r oes wahanol yn hanes Cymru.

O'r Celtiaid Cyfrwys a'r Rhufeiniad Rhyfeddol i'r Tywysogion Trafferthus a Ffrwydrad y Chwyldro Diwydiannol; daw Ditectifs Hanes â'r cwbl yn fyw i blant gan ddefnyddio gwisgoedd ffansi a cholur ac effeithiau graffeg cyffrous.

Meddai cynhyrchydd Ditectifs Hanes, Llinos Griffin-Williams:

"Mae hanes unrhyw genedl yn hollbwysig. Mae 'na ddyletswydd ar bob cenhedlaeth i gynnal cof y genedl honno.

"Wrth ddysgu hanes i’n plant, rydyn ni’n gallu sicrhau bod ein hanes yn cael ei gofio – a’i fod yn rhywbeth byw o hyd. Mae’n hanfodol i ni fagu ymwybyddiaeth am bwy ydyn ni – ac mae cyflwyno hanes Cymru i blant mewn ffordd liwgar a difyr yn ddechrau da ar y daith."

Diddanu ac addysgu yw nod y gyfres arbennig hon. Fe fydd sawl arbenigwr yn ymuno â'r cyflwynwyr ar eu taith, ac er mwyn mynd â'r dysgu ymhellach fe fydd deunydd addysgiadol digidol ar gael ar y we i gyd-fynd â'r gyfres.

Meddai Sioned Wyn Roberts, Comisiynydd Cynnwys Plant S4C:

"Mae’n bleser gweld cyfres hwyliog a doniol Ditectifs Hanes ar Stwnsh. Bydd y gynulleidfa yn chwerthin ac yn dysgu ffeithiau ffiaidd am Hanes Cymru ar yr un pryd.

Yn ogystal â’r gyfres deledu, mae cynnwys addysgiadol ar gael ar y we. Bydd modd i athrawon ddefnyddio’r ffilmiau ychwanegol 'ma wrth ddysgu Hanes Cymru i ddisgyblion Cyfnod Allweddol 2.

Dyma’r tro cyntaf i S4C gynnig deunyddiau addysgiadol yn ogystal â’r rhaglenni teledu ac rydym yn ddiolchgar iawn i Green Bay Media ac Amgueddfa Cymru am eu cydweithrediad yn y fenter gyffrous yma."

Sefydlwyd Partneriaeth rhwng S4C, Green Bay Media ac Amgueddfa Cymru yn dilyn llwyddiant 'The Story of Wales' BBC Cymru Wales er mwyn creu cyfres Ditectifs Hanes. Gwnaed defnydd o leoliadau Amgueddfa Cymru yn y gyfres ac mae arbenigwyr o'r sefydliad yn ymddangos yn ystod y gyfres i helpu a datgelu mwy i’r Ditectifs.

Meddai Catrin Hughes Roberts, Pennaeth Partneriaethau S4C:

"Mae rhaglenni plant wedi bod wrth galon gwasanaeth S4C ers 1982 ac mae Ditectifs Hanes yn parhau’r traddodiad yma o arloesi. Drwy’r bartneriaeth greadigol hon gydag Amgueddfa Cymru a Green Bay, rydym yn falch iawn ein bod wedi gallu creu adnodd sy’n dweud hanes Cymru mewn ffordd hwyliog a rhyngweithiol. Gobeithio y bydd yn ysgogi llawer o dditectifs hanes ar hyd a lled y wlad!"

Darlledir Ditectifs Hanes ar Stwnsh bob nos Fawrth am 6.00.

Nodiadau

Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa genedlaethol ar draws Cymru sef Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe. Mae mynediad am ddim diolch i gymorth Llywodraeth Cymru.

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?