S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn penodi Rheolwr Digidol newydd - i ddatblygu cyfleodd digidol

08 Tachwedd 2012

Mae S4C wedi cyhoeddi ei bod wedi cyflogi Rheolwr Digidol newydd i arwain yn y gwaith o gryfhau presenoldeb y darlledwr ar blatfformau newydd.

Huw Marshall sydd wedi’i benodi i’r swydd, a bydd yn gweithio gyda chomisiynwyr y Sianel i sicrhau bod elfennau rhyngweithiol yn cael eu comisiynu ochr yn ochr â rhaglenni teledu. Bydd Huw hefyd yn sicrhau bod cynnwys digidol ychwanegol ar gael i gynulleidfaoedd.

Mae Huw Marshall wedi arbenigo mewn datblygiadau ar gyfer y cyfryngau newydd ac yn ddiweddar bu’n rhedeg ei gwmni ei hun fel ymgynghorydd ar wasanaethau cyfryngau newydd.

Wythnos diwethaf, fe ddywedodd Prif Weithredwr S4C ei fod am weld y Sianel yn sicrhau presenoldeb ar bob platfform posibl.

Meddai Cyfarwyddwr Cynnwys S4C, Dafydd Rhys:

“Rydyn ni eisoes yn cynnig rhaglenni arlein ac ar alw ac wedi cychwyn ar y broses o ddatblygu cynnwys digidol sy’n cynnwys aps a ffilmiau addysgol digidol. Ond mae byd y cyfryngau newydd yn symud ymlaen yn gyflym. Yr her i S4C yw sicrhau bod y gynulleidfa yn medru derbyn cynnwys pryd bynnag, sut bynnag a lle bynnag maen nhw eisiau. Ond ar ben hyn, mae cymaint o gyfleoedd bellach i ni ddarparu cynnwys digidol ychwanegol arlein i ddenu cynulleidfaoedd newydd.

“Dwi’n edrych ymlaen yn fawr iawn i weithio gyda Huw fel ein bod yn gallu datblygu’n darpariaeth ni ymhellach a sicrhau bod yr hyn mae S4C yn ei gynnig yn addas i’r oes ddigidol newydd.

Meddai Rheolwr Digidol S4C, Huw Marshall:

“Mae S4C wedi dangos ei bod o ddifrif am ddatblygu S4C yn sianel sy’n cofleidio’r datblygiadau yn y maes digidol. Mi fydda i’n cydweithio â’r holl randdeiliaid, y cynhyrchwyr, sefydliadau ac unigolion sydd yn ceisio rhoi llwyfan i gynnwys Cymraeg yn y cyfnod cyffrous hwn.

“Dros y deuddeg mis nesaf yn fy rôl newydd fel rheolwr digidol S4C, rwy’n mawr obeithio y gallaf ddatblygu ystod eang o gynnwys digidol a fydd yn cynnig mwy i’n cynulleidfaoedd, a denu cynulleidfaoedd newydd.

“Y nod yw sefydlu S4C yng nghalon tirwedd ddigidol newydd Cymru.”

Diwedd

Nodiadau:

Mae Huw yn dechrau gwaith yn S4C yn syth.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?