S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

BBC Cymru Wales ac S4C yn adnewyddu eu partneriaeth strategol

08 Tachwedd 2012

 Mae BBC Cymru Wales ac S4C wedi cyrraedd cytundeb i adnewyddu partneriaeth a fydd yn diogelu’r buddsoddiad mewn rhaglenni ar gyfer S4C ar y lefelau presennol am y pedair blynedd nesaf.

Mae’r cytundeb, sy’n gwarantu’r lleiafswm statudol o 520 awr o raglenni sy’n cael eu cyflenwi i S4C bob blwyddyn gan BBC Cymru Wales, wedi’i gymeradwyo gan Awdurdod S4C ac Ymddiriedolaeth y BBC, ac wedi’i groesawu gan y ddau ddarlledwr. Mae’n cynnal lefel buddsoddiad BBC Cymru Wales mewn rhaglenni teledu gwreiddiol sy’n cael ei gynhyrchu am ddim ar gyfer S4C. Mae’r ddau sefydliad hefyd yn cydweithio ar nifer o brosiectau creadigol sydd wedi’u cyhoeddi’n ddiweddar.

O dan y bartneriaeth, bydd rhaglenni poblogaidd o safon uchel, gan gynnwys Pobol y Cwm, Y Clwb Rygbi, rhaglenni’r Eisteddfod Genedlaethol a rhaglenni newyddion a materion cyfoes gan gynnwys y gwasanaeth newyddion dyddiol, yn aros wrth galon amserlen S4C.

Dyma’r drydedd bartneriaeth strategol hyd yma a bydd yn para tan 2016/17.

Meddai Cyfarwyddwr BBC Cymru Wales, Rhodri Talfan Davies:

“Mae adnewyddu’r bartneriaeth strategol yma’n tanlinellu ymrwymiad BBC Cymru Wales i ddarlledu yn yr iaith Gymraeg. Yr hyn sy’n hollbwysig yw ein bod wedi sicrhau - er gwaethaf yr hinsawdd ariannol - y bydd lefel ein buddsoddiad mewn rhaglenni poblogaidd yn yr iaith Gymraeg ar S4C yn cael ei diogelu am y pedair blynedd nesaf. Mae ein partneriaeth yn dal i gryfhau wrth i ni edrych ymlaen at gydweithio mewn ffyrdd mwy creadigol fyth.”

Meddai Prif Weithredwr S4C, Ian Jones:

“Mae S4C yn edrych ymlaen at barhau i gydweithio’n agos gyda’r BBC ar ystod eang o raglenni a gwasanaethau wrth inni adnewyddu’n partneriaeth strategol. Rydyn ni’n croesawu ymrwymiad y BBC i gynnal ei wariant ar raglenni ar gyfer y deg awr o raglenni bob wythnos y mae’r gorfforaeth yn eu darparu i ni. Bydd yn sicrhau bod eu rhaglenni o ansawdd uchel yn parhau’n gonglfaen i’n gwasanaeth.

“Mae cytundeb y bartneriaeth yn galluogi’r ddau ddarlledwr i rannu talentau ac adnoddau i greu rhaglenni cyffrous ac arloesol, a thrwy’r bartneriaeth greadigol yma, rydyn ni’n bwriadu sicrhau’r gwasanaeth gorau posib i’n cynulleidfaoedd.”

Darllenwch y cytundeb partneriaeth strategol yn llawn

Diwedd

Nodiadau:

Bydd y trydydd cytundeb partneriaeth strategol yn rhedeg o 2013/14 i 2016/17. Cafodd partneriaethau strategol blaenorol eu cytuno yn 2006 a 2010. Mae’r Bartneriaeth Strategol wrth wraidd y gwerth ariannol a threfniadau atebolrwydd y rhaglenni sy’n cael eu cyflenwi i S4C gan BBC Cymru Wales.

Mae’r bartneriaeth hirdymor yma’n gytundeb ar wahân i’r Cytundeb Gweithredol rhwng y darlledwyr. Mae’r Cytundeb Gweithredol yn cynnwys y trefniadau ariannol ac atebolrwydd i gyllid y ffi drwydded sy’n cael ei ddarparu gan Ymddiriedolaeth y BBC i S4C o Fis Ebrill 2013 ymlaen. Mae’r trefniadau cyllido newydd yn ffurfio rhan o setliad diweddara’r Ffi Drwydded a gyflwynwyd gan Adolygiad Gwariant Llywodraeth y DU ym mis Hydref 2010. O dan amodau’r Cytundeb Gweithredol, bydd S4C yn derbyn £76.4 miliwn y flwyddyn yn uniongyrchol yn 2013/2014 gan Ymddiriedolaeth y BBC. Mae’r cytundeb yma, sydd yn un ar wahân i’r cytundeb uchod, yn para tan 2016/17.

Mae’r cydweithio creadigol rhwng S4C a BBC Cymru Wales yn cynnwys prosiectau sydd wedi’u cyhoeddi fel comedi newydd Portars gyda BBC Radio Cymru a phrosiect arloesol digidol traws-gyfrwng ar gyfer Pobol y Cwm.

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?