S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Hwyl gyda Cyw a'i Ffrindiau

09 Tachwedd 2012

Mae'r cymeriad pluog poblogaidd yn ôl rhwng dau glawr wrth i ail lyfr Cyw gael ei gyhoeddi ddiwedd Tachwedd – ac eleni mae’n cynnwys DVD o fideos caneuon Cyw hefyd.

Yn dilyn poblogrwydd Blwyddlyfr Cyw y llynedd fe fydd Cyhoeddiadau Sain, ar y cyd ag S4C, Boom Plant a gyda chymorth ariannol Cyngor Llyfrau Cymru, yn rhyddhau Hwyl gyda Cyw a'i Ffrindiau.

"Mae’n bleser gallu cynnig profiad cyffrous Cyw mewn blwyddlyfr arall fydd gobeithio yn denu hyd yn oed mwy o wylwyr at Cyw." Meddai Helen Davies, Boom Plant.

Bydd modd prynu Hwyl gyda Cyw a'i Ffrindiau mewn siopau llyfrau lleol ledled Cymru o ddydd Llun 26 Tachwedd.

Mae'r llyfr lliwgar yn cynnig oriau o ddifyrrwch i rai bach:

• straeon,

• gemau,

• posau

• sticeri,

• a DVD gyda rhai o hoff ganeuon Cyw hefyd.

"Mae gan blant Cymru gariad mawr at Cyw." meddai Sioned Wyn Roberts, Comisiynydd Cynnwys Plant S4C. "Dwi'n gobeithio y bydd y llyfr newydd hwn, yn ogystal â'r DVD sy'n cynnwys ugain o ganeuon hwyliog fel Cyw a'i Ffrindiau a Dewch i Ddawnsio, yn rhoi oriau o bleser i blant, ac yn rhywbeth i'w drysori am flynyddoedd."

Mae Cyw yn wasanaeth digidol, modern sy'n cynnwys rhaglenni teledu, rhaglenni ar wefan Cyw, ac apps y gellir eu lawr lwytho. Fe fydd y llyfr a'r DVD o ganeuon Cyw yn caniatáu i blant fwynhau eu hoff raglen mewn dau gyfrwng ychwanegol y Nadolig hwn.

"Mae Sain yn hynod o falch o gyhoeddi ail lyfr Cyw ar gyfer y Nadolig," meddai Dafydd Roberts, Prif Weithredwr cwmni Sain. "Mae'n braf gallu ychwanegu at gynnyrch y cymeriad sydd wedi profi'n boblogaidd dros ben."

Mae gwasanaeth Cyw wedi ei enwebu eleni ar gyfer 'Sianel y Flwyddyn' yng ngwobrau BAFTA plant Prydain am y trydydd tro mewn pedair blynedd eleni, a chaiff y gwasanaeth buddugol ei gyhoeddi mewn digwyddiad yn Llundain ddiwedd Tachwedd.

Am ragor o wybodaeth am Cyw ewch i ymweld â gwefan cyw.s4c.co.uk neu dudalen Facebook Cyw ac i bori trwy gatalog nwyddau Cyw ewch i sainwales.com.

Mae Cyw ymlaen am 7 bob bore a 3 bob prynhawn rhwng dydd Llun a dydd Gwener a darlledir Ti, Fi a Cyw, gwasanaeth arbennig sy'n annog rhieni di-Gymraeg i ddysgu Cymraeg trwy gyfrwng ffrwd trydar @TifiaCyw, rhwng 7 ac 8 bob bore ar S4C.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?