S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Cyw yn cyrraedd yr uchelfannau

05 Rhagfyr 2012

Mae gwefan Cyw a ffilm Cyw, Y Raplyfr Coll wedi eu henwebu yng Ngwobrau KidScreen 2013 – y wefan yng nghategori 'Y wefan orau i gyd-fynd â rhaglen' a'r ffilm yng nghategori 'Ffilm Deledu neu Raglen Unigryw Arbennig'.

KidScreen yw'r prif gylchgrawn rhyngwladol sy'n arbenigo mewn adloniant proffesiynnol i blant. Yn ogystal â'r cylchgrawn a gyhoeddir wyth gwaith y flwyddyn, mae KidScreen yn darparu gwefan ac e-gylchlythyr. Mae KidScreen yn cyrraedd cynulleidfa o dros ddeuddeg mil o bobl yn flynyddol, llawer o'r rheiny yn unigolion dylanwadol ym myd busnes adloniant plant ledled y byd.

Mae gwefan Cyw wedi ei henwebu yng nghategori 'Y wefan orau i gyd-fynd â rhaglen', ac mae ffilm Y Raplyfr Coll a gynhyrchwyd gan gwmni Fflic wedi ei enwebu yn y categori 'Ffilm Deledu neu Raglen Unigryw Arbennig'.

Mae gwefan Cyw yn cael ei dylunio a'r gweinyddu gan Boom Plant ar y cyd â Chwmni Cube o Gaerdydd. Mae'r wefan yn cynnwys rhaglenni, gemau, deunydd creu i blant, ryseitiau, adran pen-blwyddi, ac adran i oedolion.

Ffilm arbennig a ddarlledwyd y llynedd yw Y Raplyfr Coll. Yn y ffilm, a gynhyrchwyd gan gwmni Fflic, mae Rapsgaliwn (rapiwr gorau'r byd) yn dathlu ei ben-blwydd ac yn gwahodd ei ffrindiau o raglen Cyw i'w barti mawreddog. Mae'n ffilm liwgar llawn canu a dawnsio sy'n cynnwys hoff gymeriadau plant bach Cymru.

Mae Gwasanaeth Cyw wedi cael cryn lwyddiant a chlod yn ddiweddar; yn gynharach y mis hwn enwebwyd Gwasanaeth Cyw ar gyfer gwobr ‘Sianel y Flwyddyn’ yng ngwobrau BAFTA Plant 2012.

Meddai Sioned Wyn Roberts, comisiynydd cynnwys plant S4C am yr enwebiad yng Ngwobrau KidScreen 2013:

"Mae hyn yn bluen fawr yn het S4C. Mae gwobrau KidScreen yn cael eu cydnabod ledled y byd ac yn wobrau pwysig ym myd diwydiant adloniant plant. Rydym ni'n hynod falch bod gwefan Cyw a ffilm Y Raplyfr Coll wedi cael eu henwebu a hoffem longyfarch Cube a Fflic ar eu llwyddiant hefyd."

Cyhoeddir enillwyr y categorïau mewn cyflwyniad arbennig yn Efrog Newydd ar 6 Chwefror 2013.

Nodiadau

• Am ragor o wybodaeth am KidScreen ewch i Kidscreen.com

• I ymweld â gwefan Cyw ewch i s4c.co.uk/cyw

• Fe fydd ffilm ddiweddaraf Cyw, Dona Direidi – Be Wnei Di? Yn cael ei darlledu ar S4C ar Noswyl Nadolig eleni

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?