S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Dechrau ffilmio drama dditectif newydd yn Aberystwyth

12 Tachwedd 2012

   Efallai y byddwch yn sylwi ar ychydig mwy o gynnwrf ar strydoedd Aberystwyth a gweddill Ceredigion yn yr wythnosau nesaf, wrth i waith ffilmio ddechrau ar gyfres newydd i S4C – ac fe allwch chi fod yn rhan o'r cynhyrchiad.

Rhwng nawr a mis Mai 2013, bydd actorion, cyfarwyddwyr, gweithwyr camera, sain, colur a gwisgoedd o gwmni cynhyrchu Fiction Factory yn treulio cryn dipyn o'u hamser yn yr ardal yn ffilmio'r gyfres dditectif gyffrous, Mathias i S4C.

Bydd y gyfres, gyda Richard Harrington yn chwarae rhan DCI Tom Mathias, yn cael ei darlledu ar S4C yn hwyr yn 2013, a bydd hefyd yn cael ei ffilmio yn y Saesneg ar yr un pryd a bydd yn cael ei darlledu ar BBC Cymru Wales yn y flwyddyn ganlynol.

I'r criwiau y tu ôl i'r camera, mae'r gwaith caled yn dechrau nawr. Er y bydd rhan helaeth o'r ffilmio yn digwydd yn Aberystwyth ei hun mae'r gwaith yn dechrau yn Y Borth ac Ynyslas yr wythnos hon, cyn i'r cyffro symud i Bontarfynach, Cwmsymlog, Blaenplwyf a Plas Gogerddan yn yr wythnosau nesaf.

Dywedodd Gwawr Martha Lloyd, Comisiynydd Drama S4C, sydd yn hanu o Aberystwyth, "Mae'r bobl leol yn siŵr o sylwi ar griwiau camera yn ffilmio yn eu hardaloedd. Gyda thref Aberystwyth yn ganolbwynt i'r gweithgareddau, bydd y criwiau hefyd yn gweithio allan yn y wlad a'r cymunedau cyfagos ar gyfer ffilmio'r pedair stori dditectif sy'n ffurfio'r gyfres. Rydym eisiau i'r cynhyrchiad roi cyfle i wylwyr brofi naws arbennig yr ardal hon - y golygfeydd a bobl Ceredigion.

"Yn ystod y cyfnod cyntaf o ffilmio, rhwng 12 Tachwedd a 21 Rhagfyr, bydd canolbwynt y stori ym mhentref Pontarfynach a thref glan môr Y Borth ble mae darganfyddiad erchyll yn dod â hen gyfrinachau i'r wyneb ac yn cyflwyno dirgelwch iasol i DCI Mathias ei ddatrys."

Dywedodd Ed Thomas o Fiction Factory, uwch-gynhyrchydd a chyd-grëwr y gyfres, "Mae'r cynhyrchiad hwn yn gyfle gwych i ddangos y lleoliadau a'r tirwedd sydd yn gyfarwydd i bawb yng Ngheredigion ond y byddai pobl eraill yng Nghymru, Prydain a gweddill y byd efallai ddim wedi eu gweld o'r blaen.

"Bydd y tîm yn yr ardal tan ddiwedd mis Mai. Byddwn yn ymgartrefu yn Aberystwyth am chwe mis gyda'n swyddfa wedi ei lleoli ar y ffrynt. Rydym yn edrych ymlaen i weithio mewn ardal sydd heb ei gweld yn ddigon aml ar y sgrin."

Mae cyfle i drigolion lleol fod yn rhan o'r cynhyrchiad ac ymddangos ar Mathias fel un o'r actorion yn y cefndir.

Os ydych chi'n actor awyddus neu'n gymydog chwilfrydig, dyma'ch cyfle chi i fod yn rhan o gynhyrchiad fydd yn cael ei marchnata yn rhyngwladol.

Cysylltwch â Barry Phillips, aelod o dîm Fiction Factory, drwy e-bost bwp801@gmail.com gyda'ch manylion os ydych am gynnig eich enw.

Diwedd

 

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?