S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Eisteddfod Clwb Ffermwyr Ifanc Cymru yn fyw ar y we

13 Tachwedd 2012

Fe fydd modd mwynhau Eisteddfod Clwb Ffermwyr Ifanc Cymru yn fyw ar wefan S4C - s4c.co.uk - am y tro cyntaf erioed yn ei hanes eleni.

Mae Eisteddfod Clwb Ffermwyr Ifanc Cymru 2012 yn cael ei chynnal yn Neuadd Ysgol Bro Gwaun, Abergwaun ddydd Sadwrn, 17 Tachwedd - a bydd y cystadlu o’r llwyfan yn fyw ar y we ar s4c.co.uk o 10.30am tan 8.30pm.

Mae’r gwasanaeth ar y we yn cyd-fynd â’r rhaglen fyw gyda’r nos, Eisteddfod Ffermwyr Ifanc: Digwyddiadau '12 sy’n dechrau am 8.30pm.

Morgan Jones, Mari Grug ac Ifan Jones Evans fydd yn cyflwyno’r rhaglen deledu a fydd yn cynnwys cystadlu byw a chyfweliadau tu ôl i’r llwyfan ar y noson, ynghyd ag uchafbwyntiau o’r cystadlu a fu yn ystod y dydd.

Cwmniau Telesgop a Rondo sy’n cyd-gynhyrchu’r rhaglen fyw ar S4C ac s4c.co.uk, a fydd yn cynnwys cystadlaethau llwyfan fel sgetsus, unawdau canu a phartion llefaru a seremoniau’r prif wobau llenyddol.

Fe fydd y darlledwr Terwyn Davies yn rhoi sylwebaeth y tu ôl i feic, gan ddarparu manylion cefndir am y cystadlaethau yn ystod y gweddarllediad byw.

Meddai Geraint Rowlands, Pennaeth Darlledu a Chomisiynydd Chwaraeon a Digwyddiadau S4C, ”Rydym yn falch iawn o gael darlledu Eisteddfod Clwb Ffermwyr Ifanc Cymru 2012. Mae’n adlewyrchu ymrwymiad S4C i gyrraedd ein cynulleidfaoedd ar bob llwyfan posibl lle bynnag y maen nhw ar y pryd. Mae’r we’n llwyfan perffaith ar gyfer yr ŵyl gan fod llawer iawn o bobl ifanc ledled Cymru â diddordeb yn y digwyddiad blynyddol hwn. Fe fydd pobl na all ddod i Abergwaun fwynhau’r cyfan o’u cartrefi neu eu ffermydd ar eu cyfrifiaduron.”

Eisteddfod Ffermwyr Ifanc: Digwyddiadau '12, gydol y dydd ar y we, s4c.co.uk. o 10.30am ac yn fyw ar S4C, 8.30pm, Sadwrn 17 Tachwedd

Hefyd, uchafbwyntiau nos Sadwrn 1 Rhagfyr 8.30, S4C

Isdeitlau Saesneg ar gael ar y rhaglen nos

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?