S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Enfys yn estyn llaw dros Bont y Glaw

23 Tachwedd 2012

Bydd cyfres newydd ar S4C ar wasanaeth Cyw yn cyflwyno iaith arwyddo i blant bach yn y Gymraeg am y tro cyntaf erioed. Dwylo’r Enfys fydd y rhaglen gyntaf i ddefnyddio iaith Makaton yn y Gymraeg.

Mae’r rhaglen, a ddarlledir am y tro cyntaf ddydd Llun 3 Rhagfyr, wedi ei hysbrydoli gan ferch fach o Wynedd. Enfys Thomas o Gaernarfon, sydd â Syndrom Down yw un o sêr Dwylo’r Enfys.

"Roedd Makaton yn hwb anferthol i Enfys" meddai Ruth Thomas, mam y ferch chwe blwydd oed. "Ond roedd popeth oedd ar gael yn Saesneg. Roeddwn i eisiau i Enfys, a phlant Cymru, gael dysgu Makaton trwy gyfrwng y Gymraeg."

Mae Dwylo'r Enfys yn ymweld â phlant ag anghenion arbennig ledled Cymru. Bob wythnos fe fydd Cawod a Heulwen, dau gymeriad bywiog a lliwgar sydd yn byw ym Mhendraw'r Enfys, yn dod i Gymru i gyfarfod y plant a chyflwyno tri arwydd Makaton newydd.

Rhaglen ieithyddol yw Makaton sy'n defnyddio lleferydd, arwydd a symbol i annog cyfathrebu ac mae'n system sy'n cael ei defnyddio gan dros 100,000 o blant ac oedolion. Mae 'na nifer helaeth o DVDau Makaton ar gael yn Saesneg, ac wrth gwrs mae rhaglen Something Special gyda Mr Tumble ar Cbeebies.

Breuddwyd fawr Ruth Thomas oedd creu rhaglen deledu Gymraeg o'r fath, ac wedi iddi gysylltu ag S4C a dechrau cyd-weithio â chwmni Cynhyrchu Ceidiog, mae'r freuddwyd bellach wedi dod yn wir.

"Dwi mor falch bod S4C wedi cefnogi'r syniad. Mae Dwylo'r Enfys yn rhaglen arbennig iawn ac mae'n rhaglen i bawb - nid yn unig i blant sy'n ei chael hi'n anodd i gyfathrebu neu ddysgu, ond eu teuluoedd, eu ffrindiau, yn yr ysgol, ond hefyd i fabanod a phlant bach wrth iddyn nhw ddysgu siarad. Mae Makaton wedi newid ein bywydau ni a dwi'n ffyddiog y bydd Dwylo'r Enfys rŵan yn gwneud yr un fath i deuluoedd Cymraeg."

"Mae Dwylo'r Enfys yn brosiect pwysig iawn," meddai Nia Ceidiog. "Dyma'r tro cyntaf i ni weld plant ag anghenion arbennig yn cael y fath sylw ar S4C. Mae'n dangos Cymru a'i holl amrywiaeth ac mae'n rhywbeth amheuthun a hanesyddol yma yng Nghymru. "

"Mae'n hynod o bwysig ein bod ni yn adlewyrchu Cymru gyfan ar S4C. Mae Dwylo'r Enfys yn gwneud yn union hynny, ac yn cynnig digon o adloniant wrth gyflwyno iaith arwyddo Makaton i'r teulu cyfan," meddai Sioned Wyn Roberts, Comisiynydd Cynnwys Plant ar S4C.

“Rydym yn hynod falch bod Ruth Thomas wedi cysylltu ag S4C i awgrymu syniad Dwylo'r Enfys - dyma gyfle i S4C ddarparu adnodd gwerthfawr dihafal i blant. Rydym nawr yn cydweithio ag Adran Addysg Llywodraeth Cymru i gynhyrchu adnoddau Makaton fydd ar gael i deuluoedd ac ysgolion yng Nghymru."

Yn y bennod gyntaf o Dwylo'r Enfys mae Cawod a Heulwen yn ymweld ag Owen yn yr Eglwys Newydd yng Nghaerdydd. Mae Owen wrth ei fodd gyda cherddoriaeth ac wrth "Chwarae Chwilio" mae'r tri yn mynd ar lwybr sydd yn arwain at Dŷ Cyw, ac yno mae Owen a'i frawd Joshua yn perfformio gyda Band Cyw.

Efa fydd seren y sioe'r wythnos ganlynol. Mae Efa yn byw ar fferm hyfryd yng Nghwmpenanner. Mae gan Efa chwaer hŷn o'r enw Erin ac maen nhw'n dipyn o ffrindiau. Mae'r ddwy yn mynd â Heulwen am dro yng nghwmni'r ci, Fflam, ac yna bydd y tair yn cael hwyl yn nhonnau Plas Madog.

Yn ogystal â rhoi cyfle i blant arbennig Cymru serennu ar y rhaglen mae Dwylo'r Enfys yn rhoi profiadau newydd a gwerthfawr iddynt hefyd.

Dwylo'r Enfys - rhaglen arloesol ac arbennig ar S4C.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?