S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Cystadleuaeth trelars Ffermio: cyhoeddi’r enillwyr

28 Tachwedd 2012

 Mae gweithiwr fferm o Wynedd wedi ennill y brif wobr, trelar Ifor Williams newydd sbon, yng nghystadleuaeth flynyddol Ffermio ar S4C.

Fe dderbyniodd Dylan Hughes anrheg Nadolig gynnar, ôl-gerbyd TA5 ar gyfer moch a defaid gwerth £2,665 yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru yn Llanelwedd mewn cystadleuaeth a drefnwyd ar y cyd gyda chwmni Ifor Williams Trailers.

Meirion Wynne, o Prion, ger Dinbych, enillodd yr ail wobr, trelar 8' 5' wastad gydag ochrau gwerth £1,645 a Richard Phillips, o Bumheol, Llanelli, gipiodd y drydedd wobr, trelar P6e gwerth £670.

"Dwi eisoes yn defnyddio dau drelar Ifor Williams, a bydd y trelar newydd yn ychwanegiad defnyddiol iawn. Dwi erioed wedi ennill unrhyw gystadleuaeth o'r blaen ac roedd o’n dipyn o sioc pan glywais fy mod wedi ennill gan fod cymaint yn trio am y gystadleuaeth hon," meddai Dylan, sy’n gweithio ar fferm Crugeran ger ei gartref yn Sarn Mellteyrn, Pen Llyn.

Bob hydref, mae'r gyfres Ffermio yn cynnal cystadleuaeth ar gyfer gwylwyr y gyfres. Maen nhw’n gosod un cwestiwn bob wythnos am saith wythnos, gyda llythrennau cyntaf yr atebion yn ffurfio anagram.

Mae Meirion Wynne, a enillodd yr ail wobr, yn cadw 200 o ddefaid ar ei fferm gan erw yn Sir Ddinbych. Fe wnaeth Merion dorri ei goes yn ddiweddar, felly roedd yn falch iawn o gael newydd da.

"Rwy' wedi cystadlu mewn amryw gystadleuaeth o'r blaen, ond dwi erioed wedi ennill o'r blaen. Roedd yn syrpreis braf i glywed fy mod wedi ennill trelar," meddai.

Mae Richard a Wendy Phillips, enillwyr y drydedd wobr, nawr yn ystyried cadw defaid ar eu tyddyn tair erw ym mhentre' Pumheol ar ôl iddyn nhw ennill trelar Ifor Williams P6e.

"Roedden ni arfer cadw gwartheg duon Cymreig, ond ar hyn o bryd does gennym ni ddim stoc, ond falle y gwnawn ni ddechrau cadw defaid nawr ein bod wedi ennill y trelar. Dy'n ni erioed wedi ennill unrhyw beth o werth o'r blaen ac felly roedd yna ddathlu mawr yn ein tŷ ni pan enillon ni," meddai Wendy.

Dywedodd Gwawr Martha Lloyd, Comisiynydd Rhaglenni S4C, "Roedd y gystadleuaeth eleni mor boblogaidd ag erioed a llongyfarchiadau mawr i'r rhai sydd wedi ennill.

"Mae poblogrwydd y gystadleuaeth yn adlewyrchu pwysigrwydd y gyfres Ffermio fel un o gonglfeini amserlen S4C sy'n darparu'r newyddion a'r digwyddiadau diweddaraf yn y diwydiant amaeth a'n cymunedau gwledig. Diolch i Trelars Ifor Williams a chwmni Telesgop, sy'n cynhyrchu Ffermio, am drefnu'r gystadleuaeth."

Dywedodd Iorwerth Roberts, Pennaeth Gwerthu Ifor Williams Trailers yng ngogledd Cymru, yn falch o’r cysylliad agos gyda Ffermio a bod yr ymateb i’r gystadleuaeth yn adlewyrchu'r ffydd sydd gan bobl yn safon cynnyrch y cwmni. “Mae'n arwydd bod yna alw mawr am ein trelars," ychwanegodd.

Meddai Terwyn Davies o gwmni Telesgop, cynhyrchwyr Ffermio, "Mae'r gystadleuaeth yn un werthfawr iawn inni, gan ei bod yn denu gwylwyr o bob man i gystadlu am y trelars. Mae'r enillwyr bob amser yn gwerthfawrogi ansawdd uchel y trelars, boed yn ffermwyr, tyddynwyr neu berchnogion ceffylau."

Diwedd

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?