S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Ffermwr o Fôn ar frig Fferm Ffactor 2012

29 Tachwedd 2012

"Dwi dal i binsio fy hun! Dydi petha' fel hyn ddim yn digwydd i fi," meddai Dilwyn Owen, pencampwr Fferm Ffactor 2012.

"Dwi erioed wedi gweld y teulu yn edrych mor falch ohona i. Roedd o'n rhyddhad mewn ffordd achos 'da ni wedi bod wrthi'n cystadlu am mor hir. Dwi ddim yn meddwl y gall neb werthfawrogi faint rydan ni wedi cael ein gwthio ym mhob tasg."

Ar ôl wyth wythnos o gystadlu, daeth diweddglo'r gyfres ar nos Fercher, 28 Tachwedd, gyda Dilwyn yn cael ei enwi'n enillydd y gyfres. Mae'n dychwelyd i'r fferm yn Llanedwen yn falch o gael gyrru'r wobr - yr Isuzu D-Max Yukon 4x4 - dros Bont Menai i Sir Fôn am y tro cyntaf.

"Dyma'r tro cynta' i'r wobr ddod i Sir Fôn ond nid dyma'r tro olaf dwi'n siŵr, achos mae yna ddigon o ffermwyr da yma," meddai Dilwyn sydd hefyd yn llawn clod o'r ddau ffermwr oedd yn ei erbyn yn y rownd derfynol - sef Geraint Jenkins o Dalybont, Aberystwyth, a Gethin Owen o Fetws-yn-rhos, Conwy.

"Roedd dau gystadleuydd mor gry’ yn fy erbyn i, fuaswn i ddim wedi licio dewis rhyngom ni'n tri a dwi'n siŵr ei bod hi wedi bod yn dasg anodd i'r beirniaid."

Mae un o'r beirniaid, yr Athro Wynne Jones, yn cyfaddef nad oedd hi'n dasg hawdd.

"Roedd y tri olaf yn dri cryf ac, i fod yn onest, ychydig iawn oedd yn eu gwahanu nhw yn y diwedd," meddai'r Athro Wynne Jones. "Ond roedd Dilwyn wedi perfformio i safon uwch yn y tair neu bedair wythnos diwethaf ac roedd o wedi bod yn gyson gydol y gyfres. Mae pawb yn cael diwrnodau gwael wrth gwrs, ond pan roedd Dilwyn yn cael un doedd o byth yn ddiwrnod gwael iawn!"

Daeth Dilwyn hefyd i'r brig mewn pleidlais arbennig i'r gwylwyr ar Facebook. Yn dilyn tasg cynllun busnes yn y rhaglen flaenorol, roedd gofyn i wylwyr ddewis eu hoff hysbyseb fideo roedd y tri wedi ei chynhyrchu er mwyn hyrwyddo eu busnes.

"Roedd pawb wedi helpu ac mi fues i'n ffonio, tecstio ac e-bostio pobl yn gofyn am eu cefnogaeth. Dwi'n gwybod bod y ddau arall wedi gwneud yr un peth hefyd! Ro'n i'n meddwl 'mod i'n berson laid back, ond mae Fferm Ffactor wedi tynnu rhyw elfen gystadleuol allan ohono i!" meddai Dilwyn, sydd wedi dysgu llawer am ei hun yn ystod y gyfres!

Yn ogystal â bod yn gyfres adloniannol, mae Fferm Ffactor hefyd yn arddangos holl amrywiaeth y diwydiant amaeth, ac yn y rhaglen ola’ fe roddwyd tasg fwy difrifol i'r tri ei chyflawni, gyda'r cyfle i annerch y Dirprwy Weinidog dros Amaeth yn y Cynulliad, Alun Davies.

Y pwnc y dewisodd Dilwyn ei drafod gyda'r Gweinidog oedd effaith biwrocratiaeth ar ffermwyr.

"Roedd o'n gyfle anhygoel i gael siarad efo'r Dirprwy Weinidog, a dwi'n eitha’ siŵr fy mod i wedi rhoi barn lot o ffermwyr sy'n teimlo'r un fath a mi," meddai Dilwyn. "Dwi'n gobeithio yn ystod y gyfres i gyd 'mod i wedi gallu dangos yn o lew bod ffermwr yn gorfod troi ei law at bob dim a bod rhaid bod yn hyblyg er mwyn addasu i bob sefyllfa."

Mae'r Athro Wynne Jones yn cytuno, ac yn credu bod Dilwyn yn llysgennad gwych i'r diwydiant. "Mae ganddo fo ddealltwriaeth dda o'r diwydiant amaeth a llawer o brofiad. Mae o'n ymarferol ac roedd ganddo fo ddigon o wybodaeth am fyd busnes a'r farchnad i gario fo drwy'r tasgau.

"Dydi o ddim yn hawdd rhoi eich hunain o flaen y camera ac mae pob canmoliaeth i Dilwyn a'r cystadleuwyr eraill am wneud mor dda. Mae'r gyfres yn achlysur arbennig i ddangos i bobl be' ydi anghenion ffermwyr yng Nghymru a dwi'n mawr obeithio y bydd llawer yn rhoi eu henwau ymlaen ar gyfer y gyfres nesaf."

Os ydych chi am ymgeisio i gystadlu yn Fferm Ffactor 2013, neu am gynnig enw ffrind neu aelod teulu, ewch i wefan S4C i lenwi’r ffurflen gais - s4c.co.uk/ffermffactor - neu ffoniwch Cwmni Da ar 01286 685300.

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?