S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Disgyblion ysgol gynradd i rannu llwyfan â’r sêr yng nghyngerdd Carolau S4C/Daily Post

05 Rhagfyr 2012

Bydd disgyblion o Ysgol Llanfair Dyffryn Clwyd yn rhannu llwyfan gyda rhai o enwau mawr y byd adloniant yng nghyngerdd mawreddog S4C/Daily Post, Carolau o Landudno.

Bydd y côr plant yn ymuno â Sophie Evans, seren y West End a’r sioe dalent Over the Rainbow, a Wyn Davies o Only Men Aloud ymhlith eraill yn y cyngerdd yn Venue Cymru, Llandudno, Nos Sul, 16 Rhagfyr.

Mae'r cyngerdd yn cael ei drefnu ar y cyd gan S4C a’r Daily Post a bydd y rhaglen Carolau o Landudno yn cael ei darlledu Nos Sadwrn, 22 Rhagfyr, ar S4C.

Y darlledwyr Branwen Gwyn a Hywel Gwynfryn fydd yn cyflwyno’r cyngerdd, sy’n dathlu ei 18fed pen-blwydd eleni.

Bydd y cyngerdd, sy’n cael ei llwyfannu yn Llandudno am y tro cyntaf erioed, yn codi arian at yr elusen hosbis plant, Tŷ Gobaith.

Mae’r cyngerdd hefyd yn rhoi llwyfan i’r cantor naw mlwydd oed, Owain John o Lansannan, sy’n aelod o Only Kids Aloud, y grŵp gwerin Calan, côr meibion Hogia'r Ddwylan, côr ieuenctid Ysgol Theatr Maldwyn, y fiolinydd ifanc Charlie Lovell-Jones a’r triawd canu Canig.

Fe wnaeth y disgyblion o’r pentre’ yn Sir Ddinbych enill eu lle ar lwyfan y cyngerdd yn dilyn cystadleuaeth rhwng gwahanol ysgolion.

Y nhw oedd yr ysgol leiaf i gystadlu yn y gystadleuaeth ond mae gan y côr o 38 o blant gryn brofiad o berfformio a chystadlu. Mae’r côr, sy’n cael eu harwain gan Beryl Lloyd Roberts, newydd gynhyrchu CD i nodi pen-blwydd yr ysgol yn 150 oed.

Meddai Pennaeth yr Ysgol, Llinos Hughes: "Rydym yn falch iawn o ennill, mae’n anrhydedd fawr. Mae'n fraint i gael ein dewis. Rydym yn gwylio'r cyngerdd bob blwyddyn ar S4C, ac felly mae cymryd rhan yn gwireddu breuddwyd.”

Meddai Geraint Rowlands, Pennaeth Darlledu a Chomisiynydd Chwaraeon a Digwyddiadau S4C, "Fe fydd y cyngerdd eleni’n llwyfan i rai o sêr mwyaf y byd adloniant yng Nghymru. Mae llawer o’r talentau a fydd ar y llwyfan wedi datblygu ar sioeau S4C dros y blynyddoedd a bydd Venue Cymru Llandudno, yn llwyfan teilwng ar gyfer eu doniau.

“Mae’n braf gweld doniau ifanc newydd yn cael llwyfan – mae’n adlewyrchu ein hymroddiad i weithio gyda'r genhedlaeth newydd i ddatblygu talent perfformio yn y dyfodol.

“Fe fydd y cyngerdd yn ffordd deilwng o ddathlu gwaith yr elusen Tŷ Gobaith ac ymhlith uchafbwyntiau’r gwylio dros yr ŵyl ar S4C.”

Meddai Claire Marshall o Adran Digwyddiadau'r Daily Post, “Mae gan y côr lawer o brofiad da wrth berfformio ar lwyfan ac mae ganddynt berthynas agos gyda'r elusen Tŷ Gobaith. Mae’n braf gweld côr yn llwyddo, gyda’r ysgol yn dathlu eu pen-blwydd yn 150 mlwydd oed eleni.”

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?