S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Un côr ar hugain i gystadlu am deitl Côr Cymru 2013

28 Rhagfyr 2012

Mae rhestr fer Côr Cymru 2013 wedi ei chyhoeddi gydag un côr ar hugain wedi eu dewis i gystadlu yn y rowndiau cynderfynol ym mis Chwefror, 2013.

Mae'r gystadleuaeth yn cael ei chynnal yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth gyda'r rowndiau cynderfynol ar benwythnos 15 i 17 Chwefror, 2013. Bydd y côr buddugol ym mhob un o'r pum categori yna yn cystadlu yn y ffeinal, sy'n cael ei darlledu'n fyw ar S4C nos Sul, 14 Ebrill 2013.

Ar restr fer categori'r Corau Ieuenctid mae Aelwyd y Waun Ddyfal; Côr Ysgolion Uwchradd Sir Caerfyrddin; Aelwyd Pantycelyn; Côr Hŷn Glanaethwy.

Y Corau Merched yw Côr y Wiber; Cantata; Parti Llwchwr; Côr Merched Cymry Llundain. Y Corau Meibion yw Bois y Waun Ddyfal; Bois Ceredigion; Eschoir - Bois Cymry Llundain; a Chôr Meibion Rhosllannerchrugog.

Yn cystadlu yn y categori Corau Cymysg mae CF1; Tempus; Cywair; Côr Ger y Lli.

A bydd pum côr yn cystadlu yn y categori Corau Plant, sef Côr y Cwm; Côr Plant Heol y March; Côr Ysgol Gerdd Ceredigion; Côr Iau Glanaethwy; a Chôr Ieuenctid Môn.

Bydd tocynnau ar gyfer y bum rownd gynderfynol ar gael ym mis Ionawr, i'w harchebu yn rhad ac am ddim gan gwmni Rondo, un ai trwy ffonio 029 2022 3456 neu e-bostio corcymru@rondomedia.co.uk. Bydd y rhai sydd yn mynd i wylio'r rowndiau cynderfynol yn cael blaenoriaeth wrth ymgeisio am docynnau i’r rownd derfynol ar 14 Ebrill.

Meddai’r cynhyrchydd Gwawr Owen o gwmni Rondo Media, “Rydym yn edrych ymlaen yn eiddgar i ddychwelyd i Ganolfan y Celfyddydau, Aberystwyth ar gyfer cystadleuaeth 2013. Mae hi'n achlysur pwysig yng nghalendr corau yng Nghymru ac ry' ni'n gweld y safon yn codi o flwyddyn i flwyddyn. Ry ni'n disgwyl cystadleuaeth wych eto eleni gydag awyrgylch drydanol."

Bydd pob côr yn derbyn gwobr o £500 am eu perfformiad yn y rowndiau cynderfynol. Mae gwobr o £500 pellach ar gael i enillydd pob categori, ac yna bydd y corau hynny yn cystadlu yn erbyn ei gilydd am y wobr fuddugol o £4,000.

Dyma fydd y chweched tro i S4C gynnal y gystadleuaeth, sy'n digwydd bob dwy flynedd. Côr Cywair, côr cymysg o Gastell Newydd Emlyn, ddaeth i'r brig yn 2011. Yr enillwyr blaenorol oedd Ysgol Gerdd Ceredigion yn 2009, Côr Cywair yn 2007, Serendipity o Gaerdydd yn 2005 ac Ysgol Gerdd Ceredigion yn 2003.

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?