S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Ffilm S4C ar restr fer y New York Festivals Awards

31 Ionawr 2013

Mae ffilm fer a ddarlledwyd ar S4C wedi cyrraedd rhestr derfynnol yn y New York Festivals Awards.

Mae'r New York Festivals Awards yn gwobrwyo'r goreuon o raglenni a ffilmiau'r byd teledu yn fyd-eang ac mae Fy Chwaer a Fi wedi cyrraedd y rhestr derfynnol yng nghategori cynhyrchiadau sy'n rhoi sylw i achosion dynol.

Mae'r ffilm yn adrodd hanes Catherine a Kirstie Field, efeilliaid deunaw oed o Bryn ger Llanlli sydd yn dioddef o gyflwr niwrolegol unigryw sydd wedi eu parlysu a dwyn eu gallu i siarad. Ar Fy Chwaer a Fi mae Catherine a Kirstie yn cyfathrebu â’r gynulleidfa trwy ddefnyddio peiriant arbennig, ac yn rhannu eu stori gyda'r byd am y tro cyntaf.

Meddai Llion Iwan, comisiynydd rhaglenni dogfen S4C:

"Bwriad y rhaglen oedd gwireddu dyhead yr efeilliaid i siarad am eu bywydau , er fod yn rhaid gwneud hynny trwy gymorth periaint lleferydd. Roedd eu hawydd i rannu eu teimladau ac anwyldeb eu personoliaethau’n dod drosodd yn glir. Rydm yn falch iawn o'r ffilm ddogfen arbennig hon , ac mae cyrraedd y rhestr derfynnol yma yn cadarnhau hynny ac yn gydnabyddiaeth o gryfder rhaglen oedd wedi gwneud argraff fawr ar gynulleidfa S4C."

Mei Williams o'r Wyddgrug yn wreiddiol yw cynhyrchydd a chyfarwyddwr Fy Chwaer a Fi.

"Rydym i gyd yn hynod falch fod 'Fy Chwaer a Fi', wedi cael cydnabyddiaeth ar lefel ryngwladol. O 'nabod y teulu yn dda, dydi hi'n fawr o syndod bod eu hysbryd a'u dewrder wedi cael argraff gref ar bobl tu hwnt i Gymru hefyd. Yn wyneb salwch difrifol mae Cathrine a Kirstie yn ysbrydoliaeth i ni gyd."

Cyhoeddir enillwyr y gwobrau mewn seremoni yn Las Vegas ar 9 Ebrill.

http://www.newyorkfestivals.com/main.php?p=2,35

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?