S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Rhestr Fer Cân i Gymru 2013

11 Chwefror 2013

Mae’r chwe chân sydd ar restr fer Cystadleuaeth Cân i Gymru wedi’u cyhoeddi – gyda chyfuniad o enwau cyfarwydd a thalent newydd wedi cael lle.

Yn ôl y beiriaid, Lisa Gwilym, Gai Toms, Griff Lynch a Gwilym Dwyfor, y chwe chân sy'n haeddu lle ar Restr Fer Cân i Gymru 2013 yw:

Breuddwydion Ceffyl Gwyn gan Alun Evans

Ein Tir Na Nóg Ein Hunain gan Catrin Herbert

Aur ac Arian gan Elin Parisa Fouladi a Ben Dabson

Amser Mynd i'n Gwlâu gan Geth Vaughan a Pete Jarvis a fydd yn cael ei pherfformio gan Dyfrig Evans

Bywyd Sydyn gan Rhydian Gwyn Lewis

a Mynd i Gorwen Hefo Alys gan Rhys Gwynfor ac Osian Huw Williams, sef dau aelod band Jessop a'r Sgweiri.

Mae'r artistiaid bellach wedi derbyn £900 yr un i weithio gyda chynhyrchydd a stiwdio gerddoriaeth o'u dewis, er mwyn cynhyrchu eu cân yn broffesiynol ar gyfer y rownd derfynol.

Gallwch wrando ar y caneuon ar s4c.co.uk/canigymru

"Roedd hi'n grêt gweld ystod mor eang o gerddorion wedi cystadlu eleni ac yn braf gweld bod pobl sydd ar y sîn yn barod i fanteisio ar y cyfle." Meddai Lisa Gwilym, aelod o'r rheithgor a chyflwynydd ar C2 Radio Cymru.

"Mae'r artistiaid wedi derbyn £900 yr un i recordio'r caneuon mewn stiwdio o'i dewis felly mae'n wych o beth bod y gystadleuaeth ar ei newydd wedd yn rhoi cyfle i'r cerddorion ifanc 'ma fuddsoddi yn eu cerddoriaeth ac aros yn driw i'w sŵn eu hunain.

"Dwi'n hapus iawn bod 'na amrywiaeth o fewn y chwech, mi fydd yna sawl genre ar lwyfan Cân i Gymru eleni. Mi fydd yna rywbeth i blesio pawb, mae 'na sawl un yn bendant wedi fy mhlesio i."

Fe fydd yr artist buddugol yn ennill gwobr o £3,500 ac yn cynrychioli Cymru yn yr Ŵyl Ban Geltaidd yn Iwerddon.

Fe fydd y cystadleuwyr yn cael sylw ar raglen Heno bob noson rhwng nos Iau 21 Chwefror a nos Iau 28 Chwefror, felly cofiwch wylio.

Dilynwch Cân i Gymru ar Twitter @canigymru a #cig2013

Cân i Gymru

Nos Wener, 1 Mawrth am 8.25 ar S4C

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?