S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Rhaglen arbennig Newyddion ar effaith llifogydd yr wythnos

06 Ionawr 2014

Yn sgil wythnos sydd wedi gweld llifogydd difrifol dros ardaloedd arfordirol Cymru mi fydd rhaglen newyddion arbennig ar S4C nos Fercher yn edrych yn fanwl ar effeithiau’r tywydd garw ar hyd y wlad.

 

Fe fydd Newyddion Arbennig: Stori’r Storm yn cael ei darlledu nos Fercher, Ionawr 8 am 9:30yh. Mi fydd y rhaglen yn cael ei chynhyrchu i S4C gan BBC Cymru Wales.

Yn ystod y rhaglen mi fyddem yn ymweld â thrigolion y cymunedau sydd wedi eu taro waethaf gan y llifogydd ac yn ceisio rhagweld sut y gallen nhw baratoi ar gyfer bygythiadau tebyg yn y dyfodol.

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?