S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Aelwyd y Waun Ddyfal yn cyrraedd rownd derfynol Côr Cymru am y tro cyntaf

11 Mawrth 2013

 Mae côr Aelwyd y Waun Ddyfal o Gaerdydd wedi cyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth Côr Cymru am y tro cyntaf erioed.

Nhw ddaeth i'r brig yn rownd gynderfynol y categori corau ieuenctid ac fe ddarlledwyd uchafbwyntiau'r cystadlu ar S4C ar nos Sadwrn, 9 Mawrth.

Eleni yw'r trydydd tro iddyn nhw gyrraedd rowndiau cynderfynol y gystadleuaeth ond dyma'r tro cyntaf iddyn nhw gyrraedd y ffeinal, fydd yn cael ei darlledu'n fyw ar S4C ganol mis Ebrill.

"Mae cael ein gwobrwyo ar y trydydd tro yn gwneud y wefr hyd yn oed yn fwy - y dyfalbarhad a'r gwaith caled wedi talu ar ei ganfed," meddai Huw Foulkes, sydd wedi arwain y côr ers ei sefydlu yn 2006. "Y mwynhad mwya' wrth arwain ydi gweld y datblygiad o'r ymarferion i'r cyngherddau a'r cystadlaethau. Mae gweld ffrwyth llafur y criw ar ddiwedd perfformiad yn rhoi gwefr a dyna'r mwynhad sy'n gwneud inni barhau â'r gwaith."

Mae'r côr o ardal Caerdydd yn cynnwys 90 o aelodau rhwng 18 a 25 oed. Mae'r rhan fwyaf o'r aelodau yn fyfyrwyr ond mae rhai bellach wedi graddio ac yn gweithio yn y brifddinas. Maen nhw'n cwrdd yn gyson i ymarfer, perfformio a chymdeithasu, ac mae eu harweinydd Huw Foulkes yn dweud bod cystadlu yn Côr Cymru bob dwy flynedd yn bendant yn codi eu safon.

"Yr hyn sy'n wahanol i bob cystadleuaeth arall yng Nghymru am Côr Cymru ydy'r panel o feirniaid sy'n broffesiynol ar lefel ryngwladol. Mae cael y bobl hynny'n gwrando arnom ni gan roi sylwadau gwrthrychol, yn amhrisiadwy. Mae'n gystadleuaeth rydan ni'n anelu ati ers tipyn erbyn hyn a heb os, dyma'r gystadleuaeth sy'n codi safon y côr," meddai Huw.

Mae uchafbwyntiau rowndiau cynderfynol Côr Cymru 2013 yn cael eu dangos ar S4C ar hyn o bryd, gyda phum rhaglen dros gyfnod o bum nos Sadwrn. Y penwythnos yma, 16 Mawrth 9.00yh, cawn fwynhau uchafbwyntiau'r cystadlu yn y categori corau plant, gyda'r corau meibion, merched a chorau cymysg i ddilyn dros y penwythnosau nesa'.

Mae'r gystadleuaeth yn cael ei chynnal yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth a bydd y ffeinal yn cael ei darlledu'n fyw ar S4C nos Sul, 14 Ebrill, gan ddechrau am 6.30 yr hwyr.

Bydd fideo o bob un o berfformiadau'r rowndiau cynderfynol ar gael i'w gwylio ar wefan Côr Cymru ynghyd â phroffil o'r corau a sylwadau'r beirniaid. Mae rhaglen uchafbwyntiau'r categori ieuenctid ar gael nawr i'w gwylio unrhyw bryd ar-lein ar Clic

Diwedd

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?