S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C Masnachol yn cyhoeddi Pennaeth Datblygu Masnachol newydd

21 Mawrth 2013

Mae S4C Masnachol yn falch o gyhoeddi mai David Bryant yw Pennaeth Datblygu Masnachol newydd y sianel.

Yn gyn Brif Swyddog Cyllid gydag Universal Music UK, bydd David yn ymuno ag adran fasnachol S4C ym mis Ebrill, ac yn arwain ymdrechion y sianel i chwilio am gyfleoedd masnachol newydd.

Mae rôl Pennaeth Datblygu Masnachol, sy’n un newydd, yn ffocysu ar adnabod a gwerthuso cyfleoedd i fuddsoddi a chyflawni prosiectau masnachol mewn partneriaeth ag eraill. Bydd David yn datblygu prosiectau sy’n cynhyrchu elw masnachol i S4C ac sy’n cyd-fynd â gweithgareddau darlledu cyhoeddus S4C.

Mae David yn ymuno â thîm S4C Masnachol yn dilyn swydd ymgynghorol gyda SONY Music Entertainment UK fel Rheolwr Prosiectau. Cyn ei rôl flaenorol fel CFO gyda Universal Music UK, bu’n gweithio i Polydor UK fel Cyfarwyddwr Masnachol/Cyfarwyddwr Cyllid.

Dywedodd David Bryant, Pennaeth Datblygu Masnachol newydd S4C Masnachol:

“Mae'n wych i fod yn ymuno â'r tîm yn S4C ar adeg pan fod y sefydliad yn amlwg ar i fyny. Mae’r ffordd rydyn ni’n gwylio teledu yn newid yn gyfan gwbl, ac felly mae nifer o gyfleoedd masnachol cyffrous ar gael sy’n deillio o’r gwasanaethau mae S4C yn ei gynnig, ar y sgrin ac ar y we.

“Mae fy mhrofiad ym musnes cerddoriaeth wedi cryfhau fy marn y dylwn ni groesawu ac achub ar y cyfle i newid - bydd hwn yn her fawr ond mae’n un dwi’n edrych ymlaen ato gyda thîm S4C.”

Dywedodd Elin Morris, Cyfarwyddwr Corfforaethol a Masnachol S4C:

“Yn 2013 bydd S4C yn rhoi pwyslais mawr ar ymchwilio i gyfleoedd masnachol posib a fydd yn gwella profiad ein cynulleidfaoedd ac yn dod ag elw i’r sianel. Er mwyn cyflawni’r nodau hynny, bydd angen i ni ddefnyddio arbenigedd a phrofiad go iawn, a dyna beth mae David yn dod gydag ef.

“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda David er mwyn gwneud y mwyaf o’r cynnwys beiddgar y mae S4C yn ei gynnig a datblygu prosiectau newydd cyffrous a all ddod a gwerth ychwanegol i’n sefydliad ac i bobl Cymru.”

Diwedd

Nodiadau:

• Mae S4C Masnachol Cyf. yn un o is-gwmniau S4C.

• Mae David Bryant yn dod o Bentre’r Eglwys yn Rhondda Cynon Taf yn wreiddiol.

• Mae’n gyn ddisgybl Ysgol Gyfun Rhydfelen, ac aeth ymlaen i astudio ym Mhrifysgol Nottingham a City University yn Llundain.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?