S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C a Wales Interactive yn lansio App e-lyfrau Cymraeg

22 Mawrth 2013

Heddiw, i gyd-fynd â Gŵyl Llen Plant Caerdydd, bydd dau e-lyfr Cymraeg newydd yn cael eu cyhoeddi ar y cyd rhwng S4C a Wales Interactive.

Mae e-lyfrau Y Broga Caradog Ci ein Cymydog ac Pysgodyn Tersesa y Gath Drws Nesa' ar gael ar ffurf App ar gyfer dyfeisiadau iPad, iPhone, iTouch ac Android. Gellir prynu'r e-lyfrau o wefannau Apple Appstore, Google Play ac Amazon.

Ar yr Apps i blant rhwng dwy a phump oed mae modd gwrando ar y straeon yn cael eu darllen yn Gymraeg gan yr actores a'r cyfarwyddwr Janet Aethwy a fu hefyd yn gyfrifol am addasu'r straeon i'r Gymraeg, neu gall y plant ddewis darllen y straeon eu hunain.

Mae'r Apps hefyd yn cynnwys gemau syml megis jig-so, gêm gwisgo'r llyffant, a gêm bwydo’r broga.

Cynhelir Gŵyl Llen Plant Caerdydd am y tro cyntaf yn y ddinas eleni gyda digwyddiadau o bob math yn cael eu cynnal ledled y ddinas. Bydd yr Ŵyl yn parhau hyd ddydd Sul 24 Ebrill, ac mae S4C yn falch o lansio'r e-lyfrau i gyd-fynd â'r Ŵyl.

Buddsoddiad o gronfa ddigidol S4C sydd wedi caniatáu i'r straeon hyn gael eu haddasu i'r Gymraeg a'u cyhoeddi ar ffurf App.

Dywedodd Huw Marshall, Rheolwr Digidol S4C:

"Mae hyn yn fuddsoddiad gwych gan ei fod nid yn unig yn caniatáu i'r gwasanaeth penodol hwn fod ar gael yn y Gymraeg, ond hefyd yn golygu bod y templed digidol ar gael gan S4C ar gyfer creu datblygiadau tebyg. Bydd y platfform hwn yn ein galluogi i greu cynnwys digidol ychwanegol mewn perthynas â rhaglenni plant S4C yn y dyfodol."

David Banner, Rheolwr Gyfarwyddwr Wales Interactive yw awdur y stori Saesneg wreiddiol Mr Frog the Neighbour's Dog. Ysgrifennodd y stori er mwyn helpu ei ferch fach wrth iddi ddysgu darllen, ac aeth yn ei flaen i ysgrifennu pedwar llyfr arall a'r enw ar y gyfres Saesneg yw Animoolz. Bydd y tri theitl arall ar gael yn y Gymraeg yn y misoedd nesaf.

Dywedodd David Banner:

"Mae'r gefnogaeth gan gronfa ddigidol S4C wedi bod yn bwysig iawn wrth i ni ddatblygu'r syniad ymhellach a chreu casgliad o e-lyfrau sgrin gyffwrdd yn Gymraeg.

"Mi fydd hyn yn caniatáu i'r llyfrau gyrraedd cynulleidfa ehangach ac mae'n bwysig i ni, fel cwmni wedi ei lleoli yng Nghymru ein bod ni'n cefnogi'r iaith ac mi fydd yr e-lyfrau yn gwneud hynny yn ogystal â hyrwyddo deunydd digidol Cymru yn niwydiant digidol y byd."

Diwedd

Nodiadau

Dolenni i'r Apps

Y Broga Caradog Ci ein Cymydog

iTunes

Amazon

Google Play

Pysgodyn Teresa y Gath Drws Nesa’

iTunes

Amazon

Google Play

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?