S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

PyC – Drama Aml-Blatfform Arloesol ar Wefan S4C

25 Mawrth 2013

 Mae S4C yn cyd-weithio â BBC Cymru Wales i ddangos cyfres ddrama newydd fydd yn cael ei darlledu ar wefan S4C yn unig.

Mae cynhyrchwyr Pobol y Cwm, BBC Cymru Wales, yn torri tir newydd gyda chyfres aml-blatfform arloesol ar y we o'r enw PyC.

Er bod PyC yn seiliedig ar rai o gymeriadau’r opera sebon boblogaidd, mae’r straeon yn fwy pigog a’r profiad yn wahanol.

Bwriad y prosiect yw apelio at oedolion ifanc ac mae’r awduron yn chwilio am ffyrdd gwahanol i adrodd stori. Mae’n nhw’n straeon sy’n sefyll ar eu traed eu hunain, heb amharu ar lif y gyfres deledu, Pobol y Cwm.

Ar wefan PYC - s4c.co.uk/pyc - cyhoeddir pennod fer yn nosweithiol, Ebrill 8-12 am 9 o’r gloch. Bydd y wefan yn cael ei lansio ar 2 Ebrill.

Bydd cyfle gan wylwyr i ddilyn helyntion y cymeriadau ar Twitter - @s4cPyc - a thrafod y straeon sy’n gwthio’r ffiniau ar Facebook.

Dywedodd Siân Gwynedd, Pennaeth Rhaglenni a Gwasanaethau Cymraeg BBC Cymru, “Mae hwn yn brosiect sydd wedi’i ddatblygu ar y cyd gyda S4C ac rydym yn hyderus y bydd y cynnwys aml-blatfform yn apelio at gynulleidfaoedd newydd. Mae Pobol y Cwm yn un o’n dramâu mwyaf poblogaidd felly mae’n bwysig ein bod yn parhau i chwilio am ffyrdd o ehangu apêl y gyfres ac i fod ar flaen y gad wrth arbrofi gyda thechnegau creadigol o adrodd stori.”

Cynhyrchydd PYC yw Hannah Thomas, sy’n brofiadol iawn yn y byd aml-blatfform. Bu’n cynhyrchu Becoming Human ar gyfer Touchpaper a’r BBC ac fe gafodd y prosiect ei enwebu ar gyfer gwobr yng ngŵyl ffilm Banff, Canada.

Dywedodd Hannah, “Mae hyn yn gyfle gwych i ni fynd o dan groen rhai o'n prif gymeriadau ac i gyflwyno rhai newydd, ffres. Yn ogystal, mae PYC yn blatfform gwych i ni ddatblygu talent newydd y tu ôl - ac o flaen y camera.”

Dywedodd Dafydd Rhys, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C, "Rydym yn falch o gydweithio â BBC Cymru Wales er mwyn darparu platfform ar gyfer PyC ar ein gwefan ac i gynnig profiad newydd i'n gwylwyr. Mae PyC yn fenter sy'n manteisio ar y dulliau diweddaraf o wylio rhaglenni ac yn ehangu darpariaeth S4C y tu hwnt i'r teledu – rhywbeth yr ydym yn awyddus i wneud mwy ohono, lle bo'n addas, wrth i arferion gwylio droi'n gynyddol at ddyfeisiau a thechnoleg newydd.”

Diwedd

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?