S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Pobl ifanc o Ferthyr i fynd i Stadiwm y Mileniwm fel rhan o gynllun peilot S4C

28 Mawrth 2013

Bydd ugain o bobl ifanc o Ferthyr Tudful yn cael profi’r ddwy gêm ddarbi rygbi yn nigwyddiad Dydd y Farn yn Stadiwm y Mileniwm fel rhan o gynllun sy’n cael ei drefnu gan S4C.

Mae’r bobl ifanc sydd i gyd yn dod o ardal Merthyr yn cymryd rhan yng nghynllun Gwobrau Dug Caeredin sy’n cael ei ddarparu gan Wasanaethau Ieuenctid Merthyr Tudful drwy ysgolion, clybiau ieuenctid a chymdeithasau ieuenctid. Bydd tocynnau i ddigwyddiad Dydd y Farn, sy’n cael ei gynnal ar y 30ain Mawrth, yn cael eu rhoi i bobl ifanc sy’n derbyn Gwobr Dug Caeredin.

Mae’r tocynnau wedi’u darparu ar y cyd rhwng S4C a phedwar rhanbarth rygbi Cymru. Y gobaith yw y bydd y peilot cychwynnol yma’n arwain at gynllun rheolaidd i alluogi pobl ifanc i brofi gemau rygbi rhanbarthol Cymru, gyda S4C yn rhoi’r tocynnau y mae’n eu derbyn fel darlledwr swyddogol.

Meddai Prif Weithredwr S4C, Ian Jones:

“Bydd hi’n wych i weld grŵp o bobl ifanc brwdfrydig yn cael cyfle i brofi rygbi rhanbarthol Cymru ar ei orau yn ystod y digwyddiad mawr ‘ma yn Stadiwm y Mileniwm. Fel darlledwr swyddogol y RaboDirect Pro12, mae S4C yn derbyn tocynnau i’r gemau ac ry’n ni eisiau eu defnyddio mewn ffordd sy’n helpu cymunedau ar draws Cymru ac yn codi ymwybyddiaeth o rygbi ar y lefel uchaf.

“Mae timau rhanbarthol Cymru wedi bod yn wych – yn gweithio gyda ni i gynnal y cynllun peilot ‘ma. Rydym yn gwneud hyn gyda’r bwriad o greu cynllun mwy rheolaidd a fydd yn newyddion da i bobl ifanc ar draws Cymru. Os ydyn ni’n gallu codi brwdfrydedd pobl ifanc am chwaraeon, fe fydd yn eu helpu nhw, ac yn dod a llwyddiant i Gymru yn y pen draw.”

Meddai Ray O’Neill, Swyddog Datblygu Cynllun Gwobrau Dug Caeredin ym Merthyr Tudful:

“Mae’n wych i gael gweithio gyda S4C ar y prosiect yma a fydd yn galluogi ein pobl ifanc i gael profiad o gemau mawr yn Stadiwm y Mileniwm a chael cydnabyddiaeth am y gwaith caled a’r ymrwymiad y maen nhw wedi gwneud er mwyn derbyn Gwobr Dug Caeredin.”

Meddai Prif Weithredwr Grŵp Undeb Rygbi Cymru, Roger Lewis:

“Dwi wrth fy modd y bydd y bobl ifanc yma o Ferthyr yn ymuno â ni yn Stadiwm y Mileniwm ar gyfer Dydd y Farn.

“Mae’r math o fentergarwch a phendantrwydd sydd ei angen i ennill Gwobr Dug Caeredin yn debyg i’r ymrwymiad y mae’n chwaraewyr rygbi proffesiynol yn ei ddangos wrth ffocysu ar gyflawni eu potensial llawn nhw.

“Bydd yn achlysur rygbi gwych a dwi’n siŵr y bydd yn ysbrydoli’r bobl ifanc i anelu am ragor o anrhydeddau y tu hwynt i’r rheini maen nhw eisoes wedi’u cyflawni.

“Mae hyn yn gynllun gwych gan S4C a dwi’n falch iawn o allu cynnig ein cefnogaeth gan ei fod yn hyrwyddo’r gwerthoedd a’r credoau sy’n bwysig i ni yn Undeb Rygbi Cymru.”

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?