S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Canmoliaeth i gyfres PyC am gynnwys stori am drawsrywedd

11 Ebrill 2013

 Mae grŵp sy'n cynnig cefnogaeth i'r gymuned Lesbiaid, Hoyw, Deuryw a Trawsrywiol (LGBT) wedi croesawu cynnwys cymeriad trawsrywiol mewn cyfres arloesol ar wefan S4C.

Mae PyC yn gyfres o bum pennod sy'n bodoli ar wefan s4c.co.uk/pyc ac wedi ei chreu gan yr un tîm yn BBC Cymru Wales sy'n cynhyrchu Pobol y Cwm. Maen nhw'n benodau byr, cryno a chignoeth ar gyfer gwylwyr 18-30 oed sy’n dangos ochr wahanol i Gwmderi.

Mae person transrywiol wedi ei eni â hunaniaeth rhyw sydd yn wahanol i natur eu corff. Yn nhrydedd bennod y gyfres ar nos Fercher, 10 Ebrill, rydym ni'n darganfod fod y cymeriad Llew yn ddyn transrywiol ac yn y broses o newid rhyw ei gorff o fenyw i wryw.

Dywedodd Jayne Rowlands o Unity Project Wales sy'n cynnig cefnogaeth i'r gymuned LGBT, "Mae cymaint o ffordd i fynd i oresgyn y rhagfarnau yn y gymuned LBGT a dyna pam fod rhaglenni arloesol fel PyC mor bwysig. Mae gweld rhywun sydd yr un peth â thi yn delio â bywyd, yn ddigwyddiadau hapus â thrist, yn hytrach na bod ar y cyrion yn gallu gwneud byd o wahaniaeth i berson ifanc.

"Wrth dyfu fyny mae ceisio dod i delerau â bod yn drawsrywiol yn aml yn brofiad ynysig. Ynghyd â'r broses anodd o geisio deall eich teimladau a dod i delerau â nhw mae pwysau anferth arnoch chi i ymddwyn fel dylai 'bachgen' neu 'ferch' ei wneud. Dyma pryd daw'r feirniadaeth fod y 'rheolau' hyn yn cael eu torri."

Wrth greu'r gyfres bu tîm BBC Cymru Wales yn gweithio'n agos gyda mudiadau fel Unity Project Wales sy'n cynnig cefnogaeth i bobl trawsrywiol. Mae cynhyrchydd PyC Hannah Thomas yn esbonio, "Roedd yn bwysig wrth fynd ati i lunio'r stori ein bod ni'n delio a'r pwnc mewn modd sensitif a chywir. Roedd yn bwysig fod mudiadau trawsrywiol yn cefnogi'r prosiect a buon ni hefyd yn cwrdd â phobl sydd wedi, neu sy'n dymuno, cael triniaeth i newid eu rhyw."

Mae awdures PyC, Bethan Marlow yn ychwanegu fod y profiad wedi bod yn un emosiynol, "Doedd gen i ddim syniad pa mor ddifrifol oedd y problemau a'r poen emosiynol mae pobl trawsrywiol yn delio ag o. Roedd yr ymchwilio yn broses anodd ond hefyd yn un obeithiol am fod diwedd hapus i sawl stori."

I'r actor ifanc Gwydion Rhys, sy'n chwarae rhan Llew, roedd mynd ati i afael â her y cymeriad yn brofiad gwbl newydd, meddai: "Ochr seicolegol y cymeriad oedd anoddaf i geisio deall am fod sefyllfa'r cymeriad yn un gwbl estron i mi. Ond drwy'r sgript, a'r gwaith ymchwil, llwyddais i adeiladu'r cymeriad."

Mae PyC yn cael ei dangos ar wefan S4C - s4c.co.uk/pyc. Hefyd mewn dull newydd o ddweud stori, mae rhai o'r cymeriadau yn rhannu eu gofidion a'u gobeithion drwy gyfrifon Facebook a Twitter ffuglennol. Yno mae'r cymeriadau yn cyfathrebu gyda'i gilydd a gyda'r gwylwyr.

Dywedodd Huw Marshall, Rheolwr Digidol S4C, "Mae'n gwbl addas fod cyfres fel PyC yn delio â phynciau sy'n berthnasol i bobl ifanc a hynny ar blatfformau maen nhw yn eu defnyddio o ddydd i ddydd."

Bydd pennod nesa'r gyfres yn ymddangos ar y wefan am 9.00 heno, nos Iau 11 Ebrill, gyda'r bennod ola' nos yfory, Gwener 12 Ebrill. Wedi hynny bydd y gyfres gyfan ar gael i'w gwylio ar y wefan unrhyw awr o'r dydd am bythefnos arall.

Mae'r wefan s4c.co.uk/pyc yn cynnwys popeth sydd angen i ti ei wybod am y gyfres. Yno hefyd mae dolen at wefan grwp sy'n cynnig cefnogaeth i bobl trawsrywiol sy'n cynnwys straeon personol a manylion ar sut i gael cefnogaeth a chymorth.

Diwedd

Nodiadau:

Am rhagor o wybodaeth am waith Unity Project Wales cysylltwch â Jayne Rowlands jayne.rowlands@unityproject.org.uk neu Andrew Davies andrew.davies@unityproject.org.uk.

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?