S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Gwobr i raglen Jonathan yng Ngŵyl Cyfryngau Celtaidd 2013

24 Ebrill 2013

Mae un o raglenni S4C wedi ennill Torc Efydd ar ddiwrnod cyntaf Gŵyl Cyfryngau Celtaidd 2013 yn Abertawe.

Daeth y gyfres Jonathan: Pencampwriaeth Y Chwe Gwlad 2012 i'r brig yn y categori Adloniant mewn seremoni wobrwyo a gynhaliwyd ar brynhawn Mercher, 24 Ebrill.

Dywedodd Alun Jenkins o gwmni Avanti, cynhyrchydd a chyfarwyddwr y gyfres, "Ry' ni'n falch iawn ein bod ni wedi ennill. Ac mae'n beth da bod y rhaglen wedi ennill ar ddiwrnod cyntaf yr ŵyl a hithau'n cael ei chynnal yn Abertawe."

Mae'r ŵyl flynyddol yn cael ei chynnal yn y ddinas ar ddydd Mercher i ddydd Gwener, 24 i 26 Ebrill. Mae'r Ŵyl Cyfryngau Celtaidd yn dathlu ieithoedd a diwylliannau unigryw'r gwledydd Celtaidd ar y sgrin ac yn y byd darlledu, ac mae'r gwobrau Torc Efydd yn anrhydeddu rhagoriaeth ym myd ffilmiau, teledu, radio a chyfryngau digidol.

Dywedodd Dafydd Rhys, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C, "Llongyfarchiadau i gyfres Jonathan am ei llwyddiant yn yr Ŵyl Cyfryngau Celtaidd. Mae'r digwyddiad erbyn hyn yn llwyfan rhyngwladol o safon ac mae'r wobr yn gydnabyddiaeth o safon creadigrwydd y sector yng Nghymru a safon darpariaeth rhaglenni S4C."

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?