S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Enw cyfres dditectif Gymraeg yn cael ei ddatgelu – Y Gwyll

25 Ebrill 2013

Mae S4C wedi cyhoeddi mai Y Gwyll fydd enw ei drama dditectif newydd.

Bydd y gyfres - sy’n cael ei ffilmio yng Ngheredigion ar hyn o bryd - yn cael ei darlledu am y tro cyntaf ar S4C yn Nhachwedd 2013, gyda’r fersiwn Saesneg, Hinterland, yn cael ei darlledu ar BBC Cymru Wales yn 2014.

Mewn datblygiad newydd a chyffrous, bydd brandio ar-sgrin holl fersiynau’r gyfres yn cynnwys y teitlau Cymraeg a Saesneg. Mae’r penderfyniad yma - sy’n cael ei gefnogi gan ALL3MEDIA International a BBC Wales, sy’n bartneriaid ar y gyfres - yn sicrhau lle i ddwy iaith Cymru ar lwyfan rhyngwladol, gan adlewyrchu ein hamrywiaeth diwylliannol ac ieithyddol. Hyd yma, roedd y gyfres Gymraeg wedi cymryd enw’r prif gymeriad, Mathias.

Dywedodd Cyfarwyddwr Cynnwys S4C, Dafydd Rhys, "Mae’r gyfres hon yn hwb i ddelwedd Cymru ar lwyfan cynhyrchu teledu yn rhyngwladol. Mae’r cyffro ynghylch y rhaglen yn wych i S4C ac i Gymru. Ond rydyn ni hefyd am iddi fod yn blatfform i’r iaith Gymraeg, a chodi ymwybyddiaeth am yr iaith yn rhyngwladol.

"Mae ymgorffori’r Gymraeg yn y brand rhyngwladol yn cryfhau hunaniaeth y gyfres ac yn rhoi platfform i’r iaith yng nghalon y cynhyrchiad uchelgeisiol hwn. Mae darlledwyr wrthi’n edrych ar y gyfres, ac ar wahân i gryfder y straeon, maen nhw wrth eu bodd gyda diwylliant ac iaith unigryw nad oedden nhw’n ymwybodol ohonyn nhw o’r blaen."

Dywedodd Ed Thomas, Cynhyrchydd Gweithredol gyda chwmni cynhyrchu Fiction Factory: "Rydyn ni wrth ein bodd bod ein partneriaid yn S4C, ALL3MEDIA International a’r BBC yn rhannu ein hymrwymiad i amrywiaeth diwylliannol ac ieithyddol Cymru. Cafodd y gyfres ei chreu fel dathliad o ddiwylliant, talent ac ymdrech Cymru ac rydyn ni wedi cynhyrfu gyda’r datblygiad diweddaraf yma."

Y cyd-gynhyrchydd sy’n gyfrifol am drwyddedu’r gyfres i’w darlledu y tu allan i Gymru yw ALL3MEDIA International. Ychwanegodd Louise Pedersen, Rheolwr Gyfarwyddwr ALL3MEDIA International; "Rydyn ni wrth ein bodd i allu bod yn rhan o’r prosiect yma gydag S4C a Fiction Factory. Mae ansawdd y sgriptiau, y cyfuniad unigryw o arddull a sylwedd emosiynol sy'n cynnwys tirwedd canolbarth Cymru ac yn datgelu doniau’r cast a'r criw yn gwneud hwn yn brosiect deniadol i ddarlledwyr drama ledled y byd, ac rydym yn edrych ymlaen at sicrhau mwy o ddarlledwyr ar gyfer y gyfres yn yr hydref."

Bydd Y Gwyll yn cael ei darlledu yn y Gymraeg ar S4C yn yr hydref, 2013. Bydd fersiwn Saesneg yn cael ei darlledu ar BBC Cymru Wales yn 2014 gyda darllediadau yn dilyn ar BBC4 a DR yn Nenmarc.

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?