S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Gwaith/Cartref yw Cyfres Ddrama orau'r Ŵyl Cyfryngau Celtaidd 2013

25 Ebrill 2013

Mae'r gyfres Gwaith/Cartref wedi ennill gwobr Torc Efydd yn yr Ŵyl Cyfryngau Celtaidd 2013, ar ail ddiwrnod y digwyddiad yn Abertawe.

Daeth y ddrama i'r brig yn y categori’Cyfres Ddrama’ yn y seremoni wobrwyo a gynhaliwyd ar brynhawn Iau, 25 Ebrill. Mae'r drydedd gyfres o Gwaith/Cartref ar y sgrin ar hyn o bryd, bob nos Sul am 9.00.

Dywedodd Roger Williams o gwmni Fiction Factory, "Mae'n anrhydedd derbyn y wobr hon ar ran y cast, awduron a'r criw sy'n gweithio'n galed ofnadwy i gael y gyfres orau posib. Mae'n ffantastig i dderbyn y clod yma am yr holl waith."

Mae'r ŵyl flynyddol yn cael ei chynnal yn y ddinas ar hyn o bryd - rhwng ddydd Mercher a ddydd Gwener, 24 i 26 Ebrill. Mae'r Ŵyl Cyfryngau Celtaidd yn dathlu ieithoedd a diwylliannau unigryw'r gwledydd Celtaidd ar y sgrin ac yn y byd darlledu, ac mae'r gwobrau Torc Efydd yn anrhydeddu rhagoriaeth ym myd ffilmiau, teledu, radio a chyfryngau digidol.

Dywedodd Gwawr Martha Lloyd, Comisiynydd Drama S4C, "Mae Gwaith/Cartref yn gyfres bwysig i S4C ac yn ganolbwynt amserlen drama nos Sul. Mae'n ddrama sy'n cynnig cydbwysedd da rhwng straeon difyr ond hefyd dwys. Mae ganddi gymeriadau lliwgar a chrwn mewn dull ysgrifennu sy'n gyfoes a gyda safonau cynhyrchu uchel."

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?