S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Prif Weithredwr S4C yn canmol llwyddiant i'r Sianel yn yr Ŵyl Cyfryngau Celtaidd 2013

27 Ebrill 2013

Mae Prif Weithredwr S4C, Ian Jones, wedi canmol gwaith y diwydiannau creadigol yng Nghymru ar ôl i raglenni’r Sianel gasglu pedair o brif wobrau Gŵyl Cyfryngau Celtaidd 2013. Cynhaliwyd yr ŵyl dridiau ryngwladol yn Abertawe eleni - a daeth i ben yn y ddinas nos Wener.

Mae gwobrau’r Ŵyl (Torc Efydd) yn anrhydeddu rhagoriaeth ym myd ffilmiau, teledu, radio a chyfryngau digidol ac mae’n dathlu ieithoedd a diwylliannau unigryw'r gwledydd Celtaidd ar y sgrin ac yn y byd darlledu.

Y gyntaf i ennill Torc Efydd oedd Jonathan: Pencampwriaeth Y Chwe Gwlad 2012 (Avanti) yn y categori Adloniant ar brynhawn cyntaf yr ŵyl. Ar yr ail ddiwrnod, fe ddaeth Gwaith/Cartref (Fiction Factory) i'r brig yn y categori Cyfres Ddrama. Yna ar brynhawn Gwener, diwrnod ola'r ŵyl, fe enillodd Gwlad yr Astra Gwyn (Rondo) y categori Pobl Ifanc a Tai Bach y Byd (Cwmni Da) oedd y Gyfres Ffeithiol orau.

Meddai Prif Weithredwr S4C, Ian Jones, "Roedd croesawu'r Ŵyl Cyfryngau Celtaidd i Gymru eleni yn gyfle i ddangos yr holl dalent sydd yng Nghymru a'n diwydiannau creadigol yn y maes darlledu ar deledu, radio ac ar lwyfannau digidol. Mae'r digwyddiad wedi bod yn un byrlymus gyda thrafodaethau diddorol a phwysig yn cael eu cynnal rhwng cynrychiolwyr o'r diwydiant ar draws gorllewin Ewrop a'r tu hwnt.

"Mae hi wedi bod yn Ŵyl lwyddiannus iawn i S4C ac i Gymru wrth i ni gipio nifer o'r prif wobrau. Mae'n dangos bod S4C yn darparu cynnwys sydd o safon uchel iawn ac yn torri tir newydd yn rhyngwladol. Mae'n anrhydedd derbyn y clod mawr yma gan ein cyfoedion yn y gwledydd Celtaidd. Llongyfarchiadau i bawb a enwebwyd am un o wobrau anrhydeddus yr Ŵyl ac yn arbennig i'r enillwyr all fod yn falch iawn o'u Torc Efydd."

Roedd yr ŵyl yn cael ei chynnal yn Abertawe ar 24 i 26 Ebrill. Yn ogystal â dosbarthu gwobrau roedd y digwyddiad hefyd yn cynnal cyfres o sesiynau diddorol yn trafod gwahanol agweddau o'r diwydiant darlledu, ac roedd S4C a'r diwydiannau creadigol yng Nghymru yng nghanol y gweithgareddau.

Ymhlith y sesiynau bywiog roedd trafodaeth am lwyddiant rhyngwladol cyfresi drama, yng nghwmni Birger Larden (The Killing, Murder), Darach Mac Con Iomaire (Corp + Anam), Tone Rønning (Lilyhammer) a Gethin Scourfield yn trafod y cynhyrchiad cyffrous Y Gwyll Hinterland, sy'n un o gyd-gynyrchiadau S4C fydd yn cael ei gwerthu i farchnad fyd eang.

Roedd Cyfarwyddwr Cynnwys S4C, Dafydd Rhys, yn rhan o banel drafod mewn sesiwn am ddulliau gwahanol o fesur ymateb gwylwyr i raglenni. Bu trafod hefyd am Pobol y Cwm yn rhan o sesiwn am operâu sebon, a bu Uwch Gynhyrchydd y gyfres, Ynyr Williams o BBC Cymru Wales, yn trafod y gyfres fer PyC a ddangoswyd ar wefan S4C yn ddiweddar.

Ymhlith siaradwyr gwadd yn yr ŵyl roedd Cyfarwyddwr BBC Cymru Wales, Rhodri Talfan Davies a Ron Jones, pennaeth cwmni cynhyrchu Tinopolis. Hefyd bu Guto Harri, Cyfarwyddwr Cyfathrebu cwmni News International, yn trafod ei yrfa, a bu Peter Devlin, cynhyrchydd sain rhai o ffilmiau mawr Hollywood, yn cynnal sesiwn gyda myfyrwyr oedd yn mynychu'r ŵyl.

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?