S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn cynnal Noson Gwylwr yn Llanddarog

03 Mai 2013

Nos Fawrth 14 Mai am 7.00 bydd S4C yn cynnal Noson Gwylwyr yn Neuadd y Pentref yn Llanddarog.

Trefnir y noson fel rhan o ymgyrch Cymuned S4C sy'n cynnal sawl digwyddiad yn yr ardal er mwyn clywed barn pobl am raglenni a gwasanaethau S4C.

Bydd Ian Jones, Prif Weithredwr y Sianel a Chadeirydd yr Awdurdod S4C, Huw Jones yno i sgwrsio ac i wrando ar farn a sylwadau'r bobl leol.

Meddai Garffild Lloyd Lewis, Cyfarwyddwr Cyfathrebu, Marchnata a Phartneriaethau S4C:

"Mae'n holl bwysig bod ni'n mynd i'n cymunedau i glywed beth sydd gan ein gwylwyr a'n defnyddwyr i ddweud wrthom ni am yr hyn sydd ar y sgrin, ar ein gwefan a'n digwyddiadau ni. Mae pob math o adborth yn ddefnyddiol i ni er mwyn cynllunio ar gyfer yr hyn mae'n cynulleidfa eisiau weld. Mae croeso mawr i bobl Landdarog a'r ardal ddod atom ni i leisio'i barn."

 

Mae'r noson i ddechrau am 7.00 a bydd lluniaeth ysgafn yn cael ei ddarparu.

 

DIWEDD

Am wybodaeth bellach cysylltwch â Gwifren Gwylwyr S4C ar 0870 600 4141 neu gwifren@s4c.co.uk

Darperir system ddolen sain ac offer cyfieithu

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?