S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Datgelu'r deg – dysgwyr cariad@iaith 2013

08 Mai 2013

    Mae deg o ddysgwyr yn mynd i dreulio wythnos yn derbyn gwersi Cymraeg dwys mewn gwersyll yng Ngorllewin Cymru yng nghyfres S4C, cariad@iaith:love4language.

Nia Parry a Matt Johnson fydd yn cyflwyno'r gyfres trwy gydol yr wythnos gyda rhaglenni yn nosweithiol. Bydd yr wythnos yn dechrau gyda dwy raglen i ddod i adnabod y deg dysgwr ar nos Fercher, 15 a nos Wener, 17 Mai am 8.25pm, ac yna bydd y gyfres yn dechrau nos Sul, 19 Mai gyda'r noson derfynol i gyhoeddi'r enillydd nos Wener, 24 Mai a rhaglen uchafbwyntiau nos Sadwrn, 25 Mai.

Heddiw gall S4C ddatgelu pwy yw'r deg dysgwr Cymraeg fydd yn ymddangos ar cariad@iaith:love4language 2013:

Ryan Quick o Bort Talbot; Sa'ipolu Uhi o Tonga sy'n byw yng Nghaerdydd; Cisa Borsey o Ddinbych; Danielle Thomas o Wrecsam sy'n byw yn Llangefni; Sarah Hattle o Lee-on-the-Solent yn Hampshire; Alun Rhys Jones o Brestatyn; Tom Workman o'r Eglwys Newydd, Caerdydd; Liz Roberts o Gastell-nedd sy'n byw yng Nghaerdydd; Ludo Dieumegard o Lydaw sy'n byw yn Henllan ger Llandysul, a Gayle Lister o Reading sydd bellach yn byw ym Mhenfro.

Mae'r deg yn dod o wahanol ardaloedd o Gymru a thu hwnt, a phob un â'i reswm ei hun dros eisiau dysgu'r iaith.

Bydd y camerâu'n dilyn y dysgwyr yng ngwersyll Manorafon sydd yn swatio rhwng Tresaith a Llangrannog. Byddant yn derbyn pedair awr o wersi Cymraeg yn ddyddiol dan arweiniad y cyflwynydd a'r tiwtor Cymraeg Nia Parry, a'r tiwtor Cymraeg profiadol Ioan Talfryn.

Bydd y deg hefyd yn cymryd rhan mewn heriau amrywiol eraill ond chân nhw ddim gwybod beth sydd o'i blaenau nes iddynt gyrraedd yno.

Mae Nia Parry sy'n enedigol o Ynys Môn ond a fagwyd yn Llandrillo yn Rhos ym Mae Colwyn yn edrych ymlaen at y sialens eto eleni.

"Maen nhw'n griw mor neis, ac mae 'na amrywiaeth ddifyr o gymeriadau. Un sy'n hoffi cerddoriaeth, un cymeriad tadol, un hogan ifanc fywiog…'da ni'n mynd i gael llawer o hwyl!" meddai'r gyflwynwraig a'r fam i ddau sy'n rhoi gwersi Cymraeg i ddysgwr ers un mlynedd ar bymtheg bellach.

"Mae gan rai tipyn mwy o Gymraeg nac eraill, ac mi fydd hynny yn her i ni fel tiwtoriaid hefyd, ond taith bersonol bob un fydd yn bwysig."

Dyma'r chweched gyfres o cariad@iaith:love4language a gynhyrchir gan gwmni Fflic sy'n rhan o Boom Pictures Cymru.

Wyth o enwogion fu'n ymgymryd â sialens cariad@iaith y llynedd. Roedd y canwr opera Wynne Evans, y gyflwynwraig newyddion Lucy Owen a'r gantores Lucie Jones ymysg yr wyth, ond wedi wythnos o wersi dwys a chyfres o dasgau heriol coronwyd Gareth 'Alfie' Thomas yn enillydd y gyfres.

I dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf am y gyfres hoffwch cariad@iaith ar Facebook a dilynwch @s4cariad ar Twitter.

 

 

 

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?