S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Un o raglenni plant S4C yn cael ei henwebu am wobr fyd-eang yng Nghanada

09 Mai 2013

Mae un o raglenni plant S4C Dwylo’r Enfys wedi ei henwebu am Wobr Rockie yng Ngŵyl Cyfryngau’r Byd yn Banff, Canada.

Enwebwyd Dwylo’r Enfys yn y categori Rhaglenni Ffeithiol i Blant (2+).

Mae Gwobrwyon Cyfryngau’r Byd Banff – sy’n adnabyddus fel y Rockies – yn gynllun gwobrwyo sy’n dathlu’r gorau mewn teledu rhyngwladol a chynyrchiadau cyfryngau digidol.

Bob wythnos ar Dwylo’r Enfys, a lansiwyd fis Rhagfyr 2012, mae’r cyflwynwyr, Heulwen a Cawod yn ymweld â phlant gyda gwahanol anghenion arbennig ar draws Cymru. Mae’r cyflwynwyr yn cwrdd â’r plant mewn lleoliadau sy’n gyfarwydd iddyn nhw fel parc lleol neu bwll nofio.

Yn ogystal â dod i adnabod y plant, mae’r cyflwynwyr yn eu dysgu nhw a’r gynulleidfa ifanc adref i arwyddo gan ddefnyddio’r iaith Makaton yn y Gymraeg. Rhaglen ieithyddol yw Makaton sy'n defnyddio lleferydd, arwydd a symbol i annog cyfathrebu ac mae'n system sy'n cael ei defnyddio gan dros 100,000 o blant ac oedolion.

Mae'r ail gyfres o Dwylo'r Enfys yn cael ei ffilmio ar hyn o bryd ac mae cynlluniau i wneud cyfres o apps i blant sydd ag anghenion arbennig i gyd-fynd â'r gyfres. Yn ogystal mae adran addysg Llywodraeth Cymru yn bwriadu creu deunyddiau ar gyfer athrawon i ddysgu Makaton trwy gyfrwng y Gymraeg.

Yn y rhaglen sydd wedi ei henwebu mae Heulwen a Cawod yn teithio o’u cartref lliwgar ym mhendraw’r enfys i ymweld â Guto. Mae Guto’n byw ym Mhen Llŷn ac yn hoff o helpu ei Daid ar y fferm.

Meddai Sioned Wyn Roberts, Comisiynydd Rhaglenni Plant S4C:

"Mae’n newyddion ardderchog bod cyfres boblogaidd Dwylo’r Enfys wedi cael ei henwebu yn yr ŵyl arbennig yma. Llongyfarchiadau mawr i’r cynhyrchydd Nia Ceidiog, y criw cynhyrchu ac yn enwedig i’r holl blant sydd wedi cymryd rhan yn Dwylo’r Enfys.

"Mae wedi bod yn bleser gweld y gyfres yma yn datblygu o’r egin syniad anfonwyd i S4C gan Ruth Thomas o Bontnewydd tua blwyddyn yn ôl. Roedd Ruth wedi tynnu ein sylw at y ffaith nad oedd modd arwyddo drwy gyfrwng y Gymraeg gyda'i merch, Enfys. Wrth ddatblygu fformat Dwylo’r Enfys, mae rhaglen ieithyddol Makaton Cymraeg wedi datblygu ar y cyd.

"Mae rhaglenni fel hyn yn gyfraniadau gwerthfawr gan S4C i'r byd addysg, ond yn fwy na dim mae wedi bod yn bleser gweld cymaint deuluoedd a phlant yn mwynhau Dwylo’r Enfys ac yn dysgu dull newydd o gyfathrebu."

Gall y plant wylio cyfres gyntaf Dwylo’r Enfys unwaith eto ar wefan gwasanaeth plant S4C – cyw.s4c.co.uk. Bydd ail gyfres Dwylo’r Enfys yn dechrau ar S4C yn yr haf.

Bydd enillydd y categori yn derbyn y wobr mewn cyflwyniad arbennig yng Ngŵyl Cyfryngau’r Byd Banff 2013 ddydd Sul 9 Mehefin. Bydd y seremoni yn cael ei ffrydio’n fyw ar banffmediafestival.com

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?