S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C a BBC Cymru Wales i ddangos gemau prawf Cymru yn erbyn Japan

21 Mai 2013

Bydd dilynwyr rygbi yn cael gwylio Cymru’n herio Japan yn ystod eu taith ym mis Mehefin yn dilyn cytundeb ar y cyd rhwng BBC Cymru Wales ac S4C.

Dan oruchwyliaeth eu hyfforddwr Robin McBryde, bydd Cymru’n chwarae dwy gêm brawf yn erbyn Japan, a bydd y ddwy yn cael eu darlledu’n fyw ar deledu yng Nghymru - y gyntaf ar BBC One Wales a’r ail ar S4C. Bydd BBC Cymru Wales hefyd yn rhoi sylw i’r gemau’n fyw ar radio ac arlein.

Bydd y daith ddwy gêm i Japan yn gyfle i chwaraewyr hawlio llefydd rheolaidd yn nhîm Cymru, a rhoi cyfle i rai o’n chwaraewyr ifanc mwyaf addawol sefydlu eu hunain ar y llwyfan rhyngwladol.

Bydd y gêm brawf gyntaf rhwng Japan a Chymru (yn Osaka ddydd Sadwrn, 8 Mehefin) yn cael ei darlledu yn fyw ar BBC One Wales, BBC Radio Wales, BBC Radio Cymru ac arlein. Bydd y gêm yn cael ei hailddarlledu yn ei chyfanrwydd gyda dewis o sylwebaeth Gymraeg neu Saesneg yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw ar S4C.

Wythnos yn ddiweddarach, bydd ail gêm brawf Japan a Chymru (yn Tokyo ddydd Sadwrn, 15 Mehefin) yn cael ei dangos yn fyw ar S4C gyda sylwebaeth Cymraeg a Saesneg ar gael. Bydd y gêm hefyd ar BBC Radio Cymru, BBC Radio Wales a gwefan y BBC, gydag uchafbwyntiau ar raglen Scrum V ar BBC Two Wales y noson honno.

Meddai Geoff Williams, Pennaeth Chwaraeon BBC Cymru Wales, "Ry’n ni wrth ein boddau i allu cynnig dwy gêm brawf Cymru i’n gwylwyr a’n gwrandawyr. Bydd yn ddiddorol iawn gweld pa chwaraewyr o Gymru sy’n amlygu eu hunain yn ystod y ddwy gêm anodd yma. Bydd hi’n werth i gefnogwyr osod y larwm i’w gwylio!"

Meddai Comisiynydd Chwaraeon S4C, Geraint Rowlands: "Bydd y gyfres brawf yma’n rhoi cyfle i ambell i chwaraewr o Gymru brofi pwynt ar ôl methu â chael lle gyda’r Llewod, a bydd y garfan gyfan yno i greu argraff. Diolch i’r cytundeb yma ar y cyd rhwng S4C a BBC Cymru Wales, fe fyddwn ni’n gallu gwylio pob munud."

Mi fydd y ddwy gêm yn dechrau am 6.00 y bore amser Prydain.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?