S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Tractors, tasgau a thensiynau – mae Fferm Ffactor yn ôl, ac yn fwy nag erioed

22 Gorffennaf 2013

 Bydd Fferm Ffactor yn ôl gyda chyfres newydd ar S4C yn yr hydref. Dyma fydd pumed gyfres yr her amaeth-eithaf-yddol i ffermwyr ers y dechrau yn 2009, ac mae hi'n mynd o nerth i nerth.

Bob blwyddyn mae Fferm Ffactor yn ymestyn ac yn tyfu, gan godi gêr a chodi'r pwysau. Ac mae'r un peth yn wir am y gyfres newydd yn yr hydref, fydd yn ymestyn i raglen awr o hyd am y tro cyntaf. Mwy o amser i holi, profi a herio'r deg ffermwr, a'r tasgau yn amrywio o gneifio defaid, i yrru tractor; o dasgau milfeddygol, i lunio cynllun marchnata. Heb anghofio wrth gwrs y cwestiynau caled dan olau llachar Y Gadair.

Mae deg ffermwr dewr cyfres 2013 wedi eu dewis yn barod, ac fe fydd ymwelwyr â'r Sioe Frenhinol yn gweld eu hwynebau ar bosteri anferth o amgylch y maes, ac yn adeilad S4C, yr wythnos hon. Ond pwy ydyn nhw, ac ydych chi'n adnabod un o'u plith?

Deg ffermwr dewr Fferm Ffactor 2013 yw:

• Carys Edwards, Ganllwyd, Dolgellau

• Dafydd Jones, Trawsfynydd

• Dewi Thomas, Llanddowror, San Clêr

• Rhys Williams, Tywyn, Gwynedd

• Mathew Jones, Nantgaredig, Caerfyrddin

• Gwenno Pugh, Talsarnau, Harlech

• Dylan Harries, Llanfyrnach, Sir Benfro

• Hefin Jones, Padog, Ysbyty Ifan

• Rhydian Williams, Penderyn, Aberdâr

• Dylan Jones, Bodffordd, Ynys Môn

Mae cynhyrchydd y gyfres Siwan Haf, o Gwmni Da, yn hapus iawn â'r dewis o ffermwyr eleni, "'Da ni eisoes wedi dechrau ar y gwaith o ffilmio'r gyfres. Mae'r criw wedi cwrdd, ac yn dod ymlaen yn dda, ac roedd yn bleser cael mynd i ffilmio yng nghartref pob un ohonyn nhw yn ystod yr wythnosau diwethaf er mwyn dod i'w hadnabod yn well. Dwi'n credu y bydd hi'n gystadleuaeth agos eto eleni, a buaswn i ddim yn synnu petai yna ddagrau wrth i ni ddod at y diarddel bob wythnos."

Gwaith y beirniaid yr Athro Wynne Jones ac Aled Rees (enillydd y gyfres gyntaf yn 2009) yw penderfynu pwy fydd yn cael eu diarddel bob wythnos, a does dim dadlau â'u penderfyniad nhw. Daloni Metcalfe fydd yn cyflwyno'r cyfan ac yn cynnig gair o gysur i'r rhai sy'n gadael.

Ond i enillydd y gyfres, mae'r wobr eleni mor wych ag erioed - sef cerbyd 4x4 Isuzu D-Max Yukon, yn rhodd garedig gan Isuzu, prif noddwyr y gyfres. Dywedodd William Brown, Rheolwr Cyffredinol i Isuzu UK, "Mae Fferm Ffactor wedi tyfu mewn poblogrwydd dros y blynyddoedd ac mae Isuzu UK yn falch iawn o chwarae rôl amlwg yn y gyfres newydd eleni."

Dywedodd Gaynor Davies, Comisiynydd Cynnwys S4C, "Does dim amheuaeth fod Fferm Ffactor wedi taro tant gyda gwylwyr S4C. Wrth groesawu’r gyfres yn ôl i'r sgrin yn yr hydref, cawn edrych ymlaen at fwynhau awr o adloniant yng nghwmni Daloni, y beirniaid ac wrth gwrs y ffermwyr. Pob lwc iddyn nhw i gyd!"

Ewch i wefan

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?