S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Adnoddau rhyngweithiol S4C yn cyfrannu ar ddatblygiad ieithyddol ac addysgol plant Cymru

24 Mai 2013

Mae app addysgiadol newydd sydd wedi cael ei ryddhau gan S4C wedi’i groesawu gan arbenigwr ar ddatblygiad ieithyddol.

Yn ôl Dr Llion Jones, Cyfarwyddwr Canolfan Bedwyr ym Mhrifysgol Bangor, mi fydd app Cyw a’r Wyddor yn “cyfrannu at feithrin datblygiad ieithyddol ac addysgol plant Cymru.”

Mae Cyw a’r Wyddor yn un o ddau app newydd sbon sydd yn cael eu rhyddhau gan S4C ar gyfer gwylwyr ifanc y Sianel. Mae app Gwylltio, sydd ar gyfer plant a phobl ifanc 7-13 oed, yn llawn ffeithiau a gwybodaeth am fyd natur ac yn cyd-fynd â chyfres newydd fydd yn dechrau ar S4C ym mis Mehefin.

Dywedodd Dr Llion Jones, Cyfarwyddwr Canolfan Bedwyr, Canolfan Gwasanaethau Cymraeg Prifysgol Bangor, “Mae pwyslais S4C ar gynhyrchu adnoddau addysgol rhyngweithiol yn y Gymraeg i’w groesawu ar sawl cyfrif. O ran statws yr iaith a’r canfyddiad ohoni, mae’n hanfodol fod y Gymraeg yn hawlio’i lle ar y llwyfannau digidol diweddaraf gyda deunydd mor ddeniadol â hyn. Yn fwy ymarferol, mae’r appiau newydd yn dangos yn glir sut y gellir harneisio grym technolegau newydd i gyfrannau at y gwaith o feithrin datblygiad ieithyddol ac addysgol plant Cymru.”

Heddiw (dydd Gwener 24 Mai) bu S4C yn ymweld ag Ysgol yr Hendre, Caernarfon i ddangos yr apps newydd a gofyn barn y disgyblion. Yno roedd Dona Direidi, un o gymeriadau poblogaidd rhaglenni Cyw, a Rhys Bidder, cyflwynydd y gyfres deledu Gwylltio.

Yno hefyd i glywed ymateb y plant roedd Comisiynydd Cynnwys Plant S4C, Sioned Wyn Roberts, meddai, "Mae ymestyn gwasanaethau Cyw a Stwnsh i blatfformau digidol newydd yn waith pwysig sy'n gosod S4C yng nghanol bywydau plant a phobl ifanc Cymru. Nod y ddau app newydd yw cyflwyno addysg mewn ffordd hwyliog a thrwy ddulliau sy'n berthnasol iddyn nhw. Mae'r genhedlaeth yma wedi eu magu gyda’r dechnoleg ddiweddaraf ac mae'n hanfodol bod yr iaith Gymraeg ac S4C yn rhan o'r datblygiadau newydd, heddiw ac wrth edrych i'r dyfodol."

Mae’r app Cyw a’r Wyddor (0-6 oed) yn cyflwyno'r wyddor mewn ffordd liwgar a hwyliog. Gyda chymorth Cyw, Plwmp, Jangl, Llew, Deryn a Bolgi ry’ ni’n dysgu siâp a sŵn llythrennau’r wyddor Gymraeg wrth ymuno yng nghân yr wyddor a ffurfio’r llythrennau gyda’n bys ar y sgrin.

Mae’r app Gwylltio (7-13 oed) wedi ei ariannu gyda chymorth Cronfa Ddigidol S4C. Nod yr app yw ein harwain allan i’n cynefin i chwilio am blanhigion a bywyd gwyllt gyda chymorth ffeithiau, lluniau a chlipiau fideo. Yn yr hydref, gaeaf, gwanwyn a'r haf, mae bywyd gwyllt i'w weld o'n cwmpas ym mhob man, yn y wlad a'r dref. Y dasg yw dod o hyd i'r creaduriaid a'r planhigion a dysgu amdanyn nhw.

Mae'r ddau app ar gael i'w lawr lwytho yn rhad ac am ddim o'r App Store. Yno hefyd mae modd lawr lwytho rhagor o appiau S4C, yn cynnwys e-lyfrau a gemau.

Hefyd, gydag Eisteddfod yr Urdd Sir Benfro 2013 ar ein pennau (27 Mai i 1 Mehefin), gall rhieni gadw llygad barcud ar yr holl gystadlu a'r gweithgareddau drwy ddefnyddio App yr Urdd. Mae'n cynnwys amserlenni, bwydlenni, map o'r Maes a mwy.

Diwedd

Nodiadau:

Mae app Cyw a'r Wyddor ar gael yn rhad ac am ddim ar gyfer iPhone, iPad ac iPod.

Bydd ar gael ar gyfer dyfeisiadau Android cyn hir.

Datblygwyd yr app gan Boom Plant a Cube Interactive.

Mae app Gwylltio ar gyfer dyfais iPad yn unig, am ddim o'r App Store.

Datblygwyd yr app gan Mint Motion, Rantmedia ac Aden.

Fe gynhyrchwyd yr app gyda chymorth arian o Gronfa Ddigidol S4C.

Cynhyrchir y gyfres Gwylltio gan Aden ar gyfer S4C. Bydd y gyfres yn dechrau ar brynhawn Llun 17 Mehefin am 6.05. Yn cyflwyno mae Rhys Bidder a Catherine Ayers.

Mae App yr Urdd ar gael am ddim ar gyfer iPod, iPad, iPhone a dyfeisiadau Android.

Datblygwyd yr app gan Moilin Cyf gyda chefnogaeth S4C.

Hefyd yn newydd gan S4C

E-lyfrau i blant 0 i 6 oed ar gael i'w prynu o'r App Store:

• Jini Jiraff y Llo Bach

• Carwen Carw y Fran Fach Arw

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?