S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Y gêm gonsol Gymraeg gyntaf erioed yn cael ei chynhyrchu gyda buddsoddiad S4C

25 Mehefin 2013

"Carreg filltir bwysig" i'r iaith Gymraeg a hwb i ddiwydiannau creadigol Cymru

Mae'r Darlledwr Iaith Gymraeg S4C, Llywodraeth Cymru a'r cwmni Cymreig sy'n datblygu gemau, Wales Interactive, wedi cyhoeddi yn swyddogol bod y gwaith o greu'r gêm gonsol Gymraeg gyntaf erioed ar y gweill.

Caiff y gêm ei rhyddhau yn ystod yr hydref eleni a bydd modd chwarae'r gêm yn Gymraeg ac yn Saesneg. Yr enw Cymraeg ar y gêm yw Enaid Coll a'r enw Saesneg yw Master Reboot.

Antur ddirgel seicolegol wedi ei gosod mewn byd yn y dyfodol yw Enaid Coll, lle gall atgofion gwerthfawr gael eu harbed a'u mwynhau am byth mewn byd rhith o'r enw "Y Cwmwl Eneidiau". Wedi i ti farw, rwyt ti ar dy ffordd i'r Cwmwl i ail-fyw dy hoff atgofion drosodd a throsodd pan yn sydyn, mae rhywbeth yn mynd o'i le. Rwyt ti ar draeth diarffordd heb unrhyw syniad pwy na ble'r wyt ti. Pam bod hyn wedi digwydd? Oedd hyn yn fwriadol? Oedd hyn i fod i ddigwydd i ti? I ddod o hyd i'r atebion rhaid i'r chwaraewr fentro i mewn i’r Cwmwl, gan ddatrys posau anodd o fewn yr atgofion wrth osgoi'r gwrth firysau sy'n dy erlid.

Mae arddull weledol y gêm yn unigryw, mae iddi drac sain hudolus, stori afaelgar ac mae'r chwarae ar y sgrin yn slic.

Dywedodd Huw Marshall, Rheolwr Digidol S4C, fod y gêm hon yn garreg filltir bwysig i'r iaith Gymraeg.

Meddai Huw Marshall: "Mae hyn wirioneddol yn garreg filltir bwysig i'r iaith Gymraeg yn y byd o ddatblygiadau digidol. Mae S4C yn canolbwyntio nid yn unig ar ddarparu cynnwys ffraeth a beiddgar yn yr iaith Gymraeg, ond rydym hefyd yn benderfynol o wneud cymaint ag y gallwn i edrych am brosiectau masnachol arloesol sy'n dod â manteision economaidd i Gymru.

"Mae Enaid Coll/Master Reboot yn brosiect cyffrous iawn sy'n seiliedig ar gysyniad gwych a fydd, heb os, yn apelio at gynulleidfa eang ar draws y byd. Beth sydd mor dda am y gêm yw y bydd siaradwyr Cymraeg yn cael chwarae'r gêm yn eu mamiaith, yn union fel mae pobl eraill ar draws y byd yn ei wneud. Rydym yn gobeithio y bydd Enaid Coll/Master Reboot yn hwb i broffil yr iaith Gymraeg yn ogystal â phlesio cynulleidfaoedd ar lefel greadigol."

Dywedodd y Gweinidog Economi Llywodraeth Cymru Edwina Hart: "Mae datblygu gemau yn faes sydd ar gynyddu o fewn y diwydiannau creadigol – un o'n sectorau allweddol ar gyfer tyfiant, felly mae'r prosiect diweddaraf yma gan Wales Interactive yn newyddion da iawn.

"Mae'n bwysig nid yn unig am mai hon yw'r gêm gonsol Gymraeg gyntaf ond mae ganddi hefyd y potensial i godi proffil yr arbenigedd sydd yma yng Nghymru o fewn y sector benodol hon.

"Mae Wales Interactive wedi profi llwyddiant drwy greu apiau adloniannol sy'n cael eu cyhoeddi yn fyd eang ac mae Llywodraeth Cymru yn falch o gefnogi'r cam yma i ddatblygu gemau consol drwy'r Gronfa Datblygu Ddigidol."

Meddai Dai Banner, Rheolwr Gyfarwyddwr cwmni Wales Interactive o Ben-y-Bont ar Ogwr ac un o ddyfeiswyr Enaid Coll: "Antur seicolegol yn y person cyntaf wedi ei lleoli ym myd rhith Y Cwmwl Eneidiau ydy Enaid Coll. Mae'r gêm yn arwyddocaol yn natblygiad y diwydiant gemau yng Nghymru a bydd yn cryfhau'r ddelwedd o Gymru fel cystadleuydd cryf o fewn y sector.

"Mae Enaid Coll yn unigryw mewn sawl ffordd, nid yn unig dyma'r gêm gonsol Gymraeg gyntaf erioed ond mae ganddi arddull gweledol unigryw ac mae iddi stori afaelgar. Elfen arall eithaf anghyffredin yw mai dynes yw'r prif ddylunydd. Mae'n wir mai dynion yw'r prif weithwyr o fewn y diwydiant datblygu gemau ac mae gweledigaeth Sarah Crossman yn ehangu apêl y gêm ac yn denu cynulleidfa newydd. Mae'r dylanwad benywaidd yn gwneud hon yn gêm wahanol ac yn agor drws i farchnad newydd. Rydym wedi gweithio'n ofalus nid i ddilyn y dorf ond yn hytrach i greu rhywbeth cwbl wreiddiol."

Mae nifer o wefannau adnabyddus ym myd newyddion am gemau megis PC Games, Gamezebo, Indiestatic a RockPaperShotgun eisoes wedi cael rhagolwg ar Enaid Coll ac mae'r gêm wedi derbyn nifer o adolygiadau ffafriol yn barod.

Rhai dyfyniadau hyd yn hyn:

"Mae Enaid Coll yn edrych fel antur wych a hudolus trwy fyd unigryw sydd yn siŵr o blesio ffans gwahanol fathau o gemau," Gamezebo.

"O'r cysyniad i'r gwaith celf a'r rhaghysbyseb hyfryd, mae'n chwa o awyr iasol, iach" RockPaperShotgun.

"Gêm arswyd gwych," PC Gamer.

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?