S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Ymateb S4C i gyhoeddiad Adolygiad Gwariant Llywodraeth y Deyrnas Unedig

26 Mehefin 2013

Meddai Cadeirydd Awdurdod S4C, Huw Jones:

"Mae S4C yn falch iawn o ddeall y bydd ymrwymiad ariannol Llywodraeth y DU i S4C yn parhau.

"Mae S4C wedi gweithio'n agos gyda Gweinidogion Swyddfa Cymru, gydag aelodau seneddol egnïol, gydag aelodau amlwg o’r Cynulliad Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru a gydag aelodau o Dŷ’r Arglwyddi i geisio sicrhau bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn deall arwyddocâd pellgyrhaeddol unrhyw benderfyniad mewn perthynas ag ariannu S4C. Mae’r cyhoeddiad yma’n adlewyrchu grym y dadleuon a gyflwynwyd ganddynt. Rydym yn ddiolchgar iddynt oll am eu hymdrechion ac i Brif Ysgrifennydd y Trysorlys, y Prif Weinidog a’r Ysgrifennydd Diwylliant am wrando arnynt."

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?