S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Cyfle i bawb fwynhau sioe Nadolig Cyw

15 Gorffennaf 2013

Bydd cyfle i blant a theuluoedd o bob cwr o'r wlad fwynhau sioe Nadolig Cyw eleni wrth iddi ymweld â thri ar ddeg o leoliadau ledled Cymru.

Yn y sioe eleni – Nadolig Llawen Cyw – mae'r cymeriad pluog hoffus wedi cuddio anrhegion pawb yn rhywle, ond wedi anghofio ym mhle! Mae Dona Direidi, Ben Dant, Heulwen, Oli Odl a Huwi Stomp, yng nghwmni dau o gyflwynwyr Cyw yn mynd ati i geisio achub yr wyl.

Gyda digon o ganu a dawnsio bydd Nadolig Llawen Cyw yn siŵr o gyffroi pawb cyn y diwrnod mawr!

Cynhelir y daith rhwng dydd Iau 5 Rhagfyr a dydd Sadwrn 21 Rhagfyr mewn Ysgolion Uwchradd a Theatrau ledled Cymru. Bydd tocynnau ar werth i bawb, felly gall aelodau o'r cyhoedd yn ogystal â grwpiau o ysgolion cynradd, meithrin a grwpiau chwarae fynychu perfformiad sy'n lleol iddyn nhw.

O fewn y tair wythnos bydd y sioe yn ymweld â Chaerdydd, Cwm Rhymni, Abertawe, Ystalyfera, Caerfyrddin, Aberteifi, Aberystwyth, Pontrhydfendigaid, Llangefni, Rhuthun, Y Bala, Pwllheli a Chaernarfon. Gweler y nodiadau am union leoliadau.

Mae tocynnau i'r holl sioeau ar werth o heddiw ymlaen arlein neu dros y ffon.

Mae nhw ar gael drwy wasanaethau bwcio Galeri Caernarfon (ag eithrio’r perfformiadau yn Theatr Taliesin, Abertawe sydd ar gael drwy’r Theatr yn unig). Gweler nodiadau am fanylion cyswllt llawn.

Meddai Garffild Lloyd Lewis, Cyfarwyddwr Cyfathrebu, Marchnata a Phartneriaethau S4C:

"Mae'n braf cael cyhoeddi y bydd cyfle i fwy o blant a theuluoedd nag erioed fwynhau Sioe Nadolig Cyw eleni. Gyda thri deg pedwar o berfformiadau mewn tri ar ddeg o leoliadau, bydd plant ledled Cymru’n cael cyfle i fwynhau cyffro’r Nadolig gyda Cyw eto eleni.

"O ystyried pa mor boblogaidd yw sioeau Cyw, rydym wedi comisiynu MR PRODUCER i roi cynllun at ei gilydd sy’n sicrhau y bydd cymaint â phosib o blant a theuluoedd yn medru gweld y perfformiadau. Drwy gynnal y sioeau mewn ysgolion a theatrau, bydd modd cadw costau’r sioe o fewn cyllideb sy’n adlewyrchu’r pwysau ariannol sydd ar S4C.

“Mae Cyw a’i ffrindiau yn rhan fawr o fywydau bob dydd gymaint o blant Cymru, mae’n newyddion gwych y byddan nhw’n gallu rhannu holl gyffro’r Nadolig gyda phrif gymeriadau gwasanaeth plant S4C hefyd."

Meddai Stifyn Parri, Rheolwr Gyfarwyddwr Cwmni MR PRODUCER a chynhyrchydd Sioe Nadolig Llawen Cyw:

"Rydym yn falch iawn o'r cyfle i fynd ac enw da Cyw ac S4C ar daith ledled Cymru gyfan y Rhagfyr yma, a hynny i ystod ehangach o bobl nag y llynedd.

"Mae profiadau theatr yn gynnar mewn bywyd plentyn yn allweddol ac mae hi'n anrhydedd cael y cyfrifoldeb o gynnig sioe llawn dawns a chân, gyda'r cyfle i bob plentyn ymuno yn yr hwyl a chroesawu eu harwyr i'w hardal. Byddwch yn barod, mae Cyw yn dod i'ch ardal chi!"

Diwedd

Nodiadau:

Lleoliadau sydd wedi eu cadarnhau:

• Dydd Iau 5 Rhagfyr, Ysgol Howells, Caerdydd

Sioeau am 11.30am, 1.45pm a 6.00pm

• Dydd Gwener 6 Rhagfyr, Ysgol Cwm Rhymni, Y Coed Duon

Sioeau am 11.15am a 2.00pm

• Dydd Sadwrn 7 Rhagfyr, Theatr Taliesin, Abertawe

Sioeau am 11.00am, 1.45pm a 4.00pm

• Dydd Mawrth 10 Rhagfyr, Ysgol Gyfun Ystalyfera

Sioeau am 09.45am ac 11.30am

• Dydd Mercher 11 Rhagfyr, Ysgol Uwchradd y Frenhines Elisabeth, Caerfyrddin

Sioeau am 11.30am, 1.45pm a 6.00pm

• Dydd Iau 12 Rhagfyr, Ysgol Uwchradd Aberteifi

Sioeau am 11.30am, 1.45pm a 6.00pm

• Dydd Gwener 13 Rhagfyr, Ysgol Gyfun Penweddig, Aberystwyth

Sioeau am 11.30am a 1.45pm

• Dydd Sadwrn 14 Rhagfyr, Neuadd Pantyfedwen, Pontrhydfendigaid

Sioeau am 11.00am, 1.45pm a 4.00pm

• Dydd Mawrth 17 Rhagfyr, Ysgol Gyfun Llangefni, Ynys Môn

Sioeau am 11.30 am a 2.00pm

• Dydd Mercher 18 Rhagfyr, Ysgol Brynhyfryd, Rhuthun

Sioeau am 11.30am, 1.45pm a 6.00pm

• Dydd Iau 19 Rhagfyr, Ysgol y Berwyn, Y Bala

Sioeau am 11.30am a 1.45pm

• Dydd Gwener 20 Rhagfyr, Ysgol Glan y Môr, Pwllheli

Sioeau am 11.30am, 1.45pm a 6.00pm

• Dydd Sadwrn 21 Rhagfyr, Galeri, Caernarfon

Sioeau am 11.00am, 1.45pm a 4.00pm

Prisiau tocynnau:

Tocyn Plentyn – Ysgol  £5

Tocyn Plentyn Nos – Ysgol  £6

Tocyn Plentyn - Theatr £7

Tocyn plentyn - Theatr Taliesin  £7.25

Tocyn Oedolyn - Ysgol £7

Tocyn Oedolyn - Theatr £8

Tocyn oedolyn - Theatr Taliesin  £8.25

Tocyn Teulu – Ysgol (2 oedolyn a 2 blentyn) £23

Tocyn teulu - Theatr Taliesin £28.25

Tocyn athro / cynorthwyydd gyda'r dydd (Ysgol yn unig) £0

I brynu tocynnau i unrhyw sioe ag eithrio’r sioe yn Abertawe, dylid cysylltu â Galeri Caernarfon trwy ffonio 01286 685 222 neu gellir prynu tocynnau ar eu gwefan, www.galericaernarfon.com

I brynu tocynnau ar gyfer Sioe Nadolig Cyw yn Theatr Taliesin, Abertawe ar 7 Rhagfyr dylid cysylltu â swyddfa docynnau Theatr Taliesin trwy ffonio 01792 602060 neu gellir prynu tocynnau ar eu gwefan, www.taliesinartscentre.co.uk

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?