S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

CFfI v Fferm Ffactor ar faes Y Sioe Frenhinol

16 Gorffennaf 2013

 Yn Y Sioe Frenhinol eleni, bydd cyfres boblogaidd S4C Fferm Ffactor yn esgor ar gystadleuaeth newydd sy'n gyfle i Glybiau Ffermwyr Ifanc Cymru ddangos eu doniau.

Am 4.30 ar brynhawn Mawrth, 23 Gorffennaf bydd Y Cylch Gwartheg yn cael ei thrawsnewid yn llwyr gan ras rwystrau newydd sbon danlli Fferm Ffactor.

Mae'r rhwystrau yn cynnwys tasgau y bydd y cystadleuwyr wedi hen arfer â'u cyflawni ar y fferm – casglu wyau, rhoi llaeth i'r llo, cario bêls, rhoi teiars ar ben y silwair. Ond, bydd ras rwystrau Fferm Ffactor yn eu profi i'r eithaf, gyda phopeth yn fwy o faint, yn fwy lletchwith ac yn llawer mwy o hwyl!

Yn eu tro, bydd pedwar tîm yn sgrialu o amgylch y cwrs, ar droed ac ar gefn tractor tegan maint oedolyn. Bydd y ddau dîm cyflymaf yna'n cystadlu ben ben â'i gilydd mewn cyfres newydd o dasgau i hawlio buddugoliaeth a chwpan sgleiniog Fferm Ffactor.

Y pedwar Clwb Ffermwyr Ifanc fydd yn cystadlu yw: Hermon o Sir Benfro; Bodedern, Ynys Môn; Dyffryn Madog, Eryri a Llandeilo, Sir Gaerfyrddin. Daloni Metcalfe sy'n cyflwyno'r ras, gyda Mari Lovgreen yn ymuno â hi i ofalu am y cystadleuwyr ar ymyl y cylch cyn ac ar ôl y rasio.

"Mae hi bob tro yn hwyl gweithio gyda CFfI ac fe allwn ddisgwyl llawer o redeg, gweiddi a chwympo yn ystod y ras yma!" meddai Daloni Metcalfe, cyflwynydd ac wyneb y gyfres Fferm Ffactor ar S4C. "'Rydan ni'n falch iawn o'n perthynas gyda'r Sioe Frenhinol a'r CFfI ac rydan ni'n edrych ymlaen at gynnal y digwyddiad yma eleni sy'n rhoi cyfle i bobl ifanc fod yn rhan o Fferm Ffactor."

Dywedodd Gaynor Davies, Comisiynydd Cynnwys S4C, "Mae'n dda gweld brand Fferm Ffactor yn ehangu a rhoi cyfle i fwy o bobl fod yn rhan ohoni. Dwi'n edrych ymlaen at weld y Clybiau Ffermwyr Ifanc yn mynd i'r afael â thasgau ras rwystr Fferm Ffactor. Mi fydd hi'n dipyn o ddigwyddiad fydd yn llawn hwyl."

Mae'r digwyddiad yn cael ei ffilmio gan S4C ar gyfer rhaglen arbennig Fferm Ffactor: Her y Ffermwyr Ifanc. Tamaid ychydig yn wahanol i aros pryd cyn i'r gyfres wreiddiol ddychwelyd yn yr hydref.

Os ydych chi'n ymweld â'r Sioe Frenhinol ar ddydd Mawrth, 23 Gorffennaf, dewch draw i'r Cylch Gwartheg erbyn 4.30 y prynhawn i gefnogi'r clybiau, a chael digon o hwyl hefyd.

Cliciwch yma i weld pwy yw'r timau.

Diwedd 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?