S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Ffilm S4C yn dod ag eliffant yn ôl i Dregaron

13 Awst 2013

 Dros yr wythnos ddiwethaf, roedd yna olygfa anghyffredin iawn yng nghanolbarth Cymru wrth i eliffantod grwydro'r wlad, yn atseinio stori leol fod eliffant wedi ei gladdu mewn pentref yno yn y 1840au.

Mae dau eliffant Affricanaidd wedi bod yn aros ar gyrion Tregaron, wrth iddynt serennu mewn ffilm deuluol newydd Y Syrcas fydd yn cael ei dangos ar S4C.

Er mai dim ond un eliffant sydd yn y stori, mae'r ddau - Citta a Sandra - wedi cymryd eu tro i chwarae'r rhan. Ac am eu bod nhw'n greaduriaid sydd ddim yn hoffi bod ar eu pen eu hunain, daethpwyd â'r ddwy yma er mwyn bod yn gwmni i'w gilydd ar y set.

Roedd y cynhyrchwyr yn ymwybodol bod ail-greu syrcas yng nghanolbarth Cymru yn mynd i fod yn heriol. Ond fe gawsant nhw eu bodloni bod modd ei wneud mewn ffordd sy’n diogelu lles yr anifeiliaid ac yn eu galluogi i serennu i greu ffilm unigryw a chofiadwy.

Mae presenoldeb yr eliffantod wedi creu cryn gyffro – yn ogystâl a gosod her i’r cynhyrchwyr. I’w cadw’n gyffyrddus, mae’r mamaliaid enfawr wedi bod yn byw ac yn cysgu dan gysgod pabell gydag ardal i grwydro yn yr awyr iach. Ac ar gyfer eu bwydo, mae'r rhestr siopa ddyddiol yn faith gydag ill dau yn gwledda ar 120kg o wair (ansawdd da, heb lwch); 25kg o Muesli ceffylau (heb geirch); 25kg o fran; 15kg o afalau; a 15 kg o foron bob dydd.

Nid dyma'r tro cyntaf i eliffantod ddod i Dregaron. Yn ôl yr hanes lleol, ym 1848 daeth syrcas deithiol i'r ardal, ac fe gwympodd eliffant yn sâl a marw. Y gred yw bod corff y creadur wedi ei gladdu y tu ôl i dafarn y Talbot - a'r stori hon sy'n ysbrydoliaeth i stori Y Syrcas.

Mae'r ffilm wedi ei gosod yn yr un cyfnod a'r un lleoliad a'r stori o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae'n adrodd hanes Sara, merch ifanc sy'n byw'n gaeth dan ormes a chrefydd ei thad. Pan ddaw'r syrcas i'r pentref, mae'r trigolion yn ddrwgdybus o'r ymwelwyr, a'r capeli anghydffurfiol yn pregethu yn eu herbyn. Ond yn raddol fe ddaw'r bobl leol i’w derbyn ac mae Sara yn cwympo mewn cariad a'r eliffant wrth iddi gael ei hudo gan fywyd byrlymus, cyffroes a lliwgar y syrcas. Mae'n stori emosiynol ac ysgafn sy'n codi'r galon.

Y cyfarwyddwr yw Kevin Allen, sy'n enwog am ysgrifennu a chyfarwyddo'r ffilm gomedi tywyll Twin Town. Meddai Kevin Allen, "Mae gweithio ar y cynhyrchiad hwn wedi bod yn brofiad hudolus mewn sawl ffordd. Ry' ni wedi cael ein hysbrydoli gan dirwedd ardal Tregaron ac mae cael cwmni'r creaduriaid anferth yma yn sicr wedi ychwanegu at yr awyrgylch hyfryd ar y set. Mae wedi bod yn waith caled o ran rheoli amserlen ffilmio dynn iawn ac er bod symud yr anifeiliaid anferth o amgylch y lleoliad wedi bod yn heriol ar brydiau, ry' ni wedi dysgu bod gweithio gydag eliffantod yn wahanol iawn i weithio ag actorion, a does dim modd eu brysio nhw!"

Yn serennu gyda'r eliffantod yn Y Syrcas mae'r actorion Saran Morgan, Damola Adelaja ac Aneirin Hughes, yn rhan o gast amlddiwyllianol. Mae'r cynhyrchiad yn gymysgedd o ieithoedd a diwylliannau - Cymraeg, Saesneg, Ffrangeg, Gwyddeleg, Almaeneg, Sbaeneg ac iaith Yoruba.

Dywedodd Gwawr Martha Lloyd, Comisiynydd Cynnwys S4C, "Mae Y Syrcas yn ffilm lliwgar ac anturus. Gyda chast a chriw cynhyrchu meistrolgar ynghyd â gwisgoedd, set a lleoliadau ffantastig, byddwn yn ymgolli ym myd y syrcas a Chymru Oes Fictoria. Mae e'n gynhyrchiad uchelgeisiol sy'n croesi sawl iaith a diwylliant, ac fe fydd ei apêl yn eang - gyda stori enwog eliffant Tregaron wrth ei hanfod."

Mae Y Syrcas yn gynhyrchiad gan fFatti fFilms ar gyfer S4C, a bydd yn cael ei darlledu ar S4C yn ystod y Nadolig 2013. Mae'r ffilm yn cael ei dosbarthu yn rhyngwladol gan gwmni Aimimage.

Diwedd

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?