S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Dau reswm i ddathlu i wylwyr S4C ar Virgin Media

29 Tachwedd 2012

 Fe fydd gan gwsmeriaid Virgin Media TV y dewis i wylio llawer o gemau rygbi a phêl-droed S4C yn y Gymraeg neu Saesneg o hyn ymlaen. Bydd sylwebaeth Saesneg ar gael drwy’r Botwm Coch o’r penwythnos yma ymlaen.

Daw’r newydd bythefnos ar ôl i Virgin Media TV ac S4C gyhoeddi bod y Sianel Gymraeg nawr ar gael ar rwydwaith y cwmni ledled y Deyrnas Unedig.

Mae S4C ar gael tu allan i Gymru, yn Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon, ar Virgin Media TV sianel 167, sef yr un rhif sianel ag y mae S4C arni yng Nghymru.

Y ddwy gêm gyntaf fydd ar gael gyda sylwebaeth Saesneg ar y botwm coch fydd y gêm bêl-droed fawr yn Uwch Gynghrair Cymru rhwng Bangor a’r Seintiau Newydd ddydd Sadwrn, 1 Rhagfyr ar Sgorio (o 4.45pm, cic gyntaf, 5.00pm) a gêm Y Clwb Rygbi yn y RaboDirect Pro12 rhwng y Scarlets a Munster ddydd Sul, 2 Rhagfyr (o 3.45pm, cic gyntaf, 4.00pm).

Fe fydd y gwasanaeth botwm coch hefyd ar gael ar lawer o gemau rygbi eraill yn ystod y tymor, yn ogystal â gemau pêl-droed Uwch Gynghrair Cymru.

Meddai Geraint Rowlands, Pennaeth Darlledu a Chomisiynydd Chwaraeon a Digwyddiadau S4C:

“Mae hyn yn newydd gwych ar gyfer cwsmeriaid Virgin Media ym mhob rhan o’r Deyrnas Unedig. Rydym yn falch iawn ein bod wedi gallu cydweithio mor agos gyda darparwr llwyfan allweddol er mwyn cael y gwasanaeth hwn yn barod mewn pryd ar gyfer y gêm rygbi fawr hon.

“Mae gwylwyr Virgin Media nawr fel cwsmeriaid Sky, Freeview a Freesat yng Nghymru yn gallu mwynhau chwaraeon byw ar S4C yn Gymraeg a Saesneg. I’r bobl ddi-Gymraeg hynny sy’n mwynhau chwaraeon byw, mae sylwebaeth Saesneg yn hybu’r mwynhad o’r gêm. Mae’r datblygiad yn cryfhau safle S4C fel dewis naturiol ar gyfer dilynwyr chwaraeon yng Nghymru.”

Am fanylion pellach ar sut i gael S4C ar Virgin Media ledled y Deyrnas Unedig ac ar sut i gael sylwebaeth Saesneg ar y botwm coch, ewch i s4c.co.uk neu gysylltwch â Gwifren Gwylwyr S4C 0870 6004141.

Diwedd

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?