S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Aberystwyth i gynnal première Y Gwyll

08 Hydref 2013

Bydd sêr y gyfres dditectif rhyngwladol Y Gwyll / Hinterland yn dychwelyd i Aberystwyth nos Iau, 17 Hydref ar gyfer noson première fawr y gyfres hir ddisgwyliedig.

Mewn noson o ddathlu yn adeilad yr Hen Goleg, Aberystwyth, fe gynhelir dangosiad cyhoeddus cyntaf Y Gwyll / Hinterland gan gynnig cyfle i bobl leol weld pennod agoriadol y gyfres cyn iddi gael ei darlledu ar S4C ar nos Fawrth, 29 Hydref am 9.30. Yn westeion arbennig ar y noson, fydd rhai o'r cannoedd o bobl sydd wedi bod yn rhan o'r cynhyrchiad – o'r rheiny sydd wedi sicrhau bod lleoliadau prydfertha'r ardal yn cael eu gweld, i'r myfyrwyr sydd wedi cael eu mentora yn ystod y prosiect.

Ymhlith y sêr fydd yn mynychu'r première mae'r actor Richard Harrington, sy'n chwarae'r brif ran, DCI Tom Mathias. Mae e'n wyneb adnabyddus ar deledu ar draws Prydain, yn ymddangos mewn nifer o ddramâu yn cynnwys Pen Talar ar S4C, a chyfresi Saesneg; Lark Rise to Candleford, Bleak House, Spooks, Midsomer Murders a Silent Witness.

Yno hefyd bydd Mali Harries, sy'n chwarae rhan y Ditectif Arolygydd Mared Rhys. Fe'i hadnabyddir hi hefyd fel un o sêr The Indian Doctor y BBC. Hefyd yno bydd rhai o actorion eraill y brif gast, Hannah Daniel ac Aneirin Hughes, sydd o Geredigion, ac aelodau'r tîm sydd wedi creu a chynhyrchu'r gyfres.

Mae Y Gwyll / Hinterland wedi ei ffilmio yn gyfan gwbl yng Ngheredigion, gydag Aberystwyth yn ganolbwynt. Dewis naturiol felly oedd cynnal noson fawr y première yn y dref.

Dywedodd Gwawr Martha Lloyd, Comisiynydd Drama S4C, "Aberystwyth yw'r lle amlwg i gynnal première Y Gwyll / Hinterland. Mae lleoliad y ddrama yn gwbl hanfodol i'r stori, a golygfeydd trawiadol y dref a Sir Geredigion yn rhan allweddol o'i hunaniaeth. Treuliodd y criw saith mis yn byw ac yn gweithio yn yr ardal, a byddai llawer o'r gwaith ddim yn bosib heb gydweithrediad a chefnogaeth pobl, cymdeithasau a sefydliadau'r ardal. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at y noson a chael clywed ymateb y gymuned i'r gyfres."

Gwyliwch Y Gwyll / Hinterland gyntaf ar S4C, gan ddechrau ar nos Fawrth 29 Hydref 9.30. Mae hi'n gyfres o bedair stori wreiddiol, ddwy awr yr un, i'w darlledu mewn dwy ran ar nos Fawrth a nos Iau – gyda phennod ddwbl ar nos Sul. DCI Mathias sydd wrth galon pob stori. Mae'n dod i Aberystwyth yn ffoi o'i orffennol ar ôl deng mlynedd yn gweithio i heddlu Met Llundain. Er ei feiau mae Mathias yn dditectif gwych a dro ar ôl tro mae'n ein tywys ni at y gwir.

Mae Y Gwyll / Hinterland yn gynhyrchiad gan Fiction Factory mewn cydweithrediad â S4C, Tinopolis, BBC Cymru Wales, Cronfa Gyd-gynhyrchu S4C ac All3Media International Ltd. Mae'r gyfres wedi'i chynhyrchu yn y Gymraeg a Saesneg ac fe fydd yn cael ei gwerthu yn rhyngwladol. Yn dilyn y dangosiad cyntaf ar S4C, mi fydd BBC Cymru Wales a BBC Four hefyd yn darlledu'r gyfres yn 2014, yn ogystal â'r darlledwyr DR Denmark - drwy gytundeb gyda'r dosbarthwyr a'r partneriaid cyd-gynhyrchu ALL3MEDIA International.

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?