S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Blaidd Pedr i udo yn Gymraeg am y tro cyntaf

14 Hydref 2013

Mae hanes y bachgen mentrus a'r blaidd cas yn adnabyddus i blant ledled y byd ond eleni caiff blant Cymru fwynhau stori Pedr a'r Blaidd yn y Gymraeg am y tro cyntaf erioed gyda diolch i'r actor, Rhys Ifans.

Mewn digwyddiad arbennig iawn yn Venue Cymru, Llandudno ddydd Mercher 16 Hydref bydd Ensemble Cymru yn perfformio'r gerddoriaeth hudol gyda llais neb llai na'r actor byd-enwog Rhys Ifans yn adrodd y stori sydd wedi ei chyfieithu i'r Gymraeg gan y bardd Gwyn Thomas. Bydd delweddau gan y darlunydd Marc Vyvyan Jones i'w gweld ar sgrîn yn ystod y perfformiad hefyd.

Yn ymuno â sioe Rhys a Pedr yn Venue Cymru mae cymeriad hoffus a direidus gwasanaeth Cyw S4C, Dona Direidi! Gyda ffilm fer ar ddechrau a diwedd perfformiad y gerddorfa a perfformiad rapio byr ei hun i gerddoriaeth Gareth Glyn, bydd Dona hefyd yn helpu i danio dychymyg plant Cymru.

Bydd y perfformiad o Pedr a'r Blaidd, sy'n addas ar gyfer y teulu cyfan yn cael ei ffilmio ar y diwrnod a'i ddarlledu ar S4C ar ddydd Nadolig eleni a bydd Ensemble Cymru wedyn yn mynd a'r sioe ar daith yn y flwyddyn newydd.

Cyfansoddwyd y darn gan Sergei Prokofiev yn 1936 a bwriad y cyfansoddwr o'r Wcráin oedd creu darn fyddai'n cyflwyno'r gerddorfa i blant am y tro cyntaf. Aeth ati i wneud hynny gan roi offeryn penodol i gynrychioli pob cymeriad yn y stori; y ffliwt ydi’r aderyn, yr obo ydi’r hwyaden, y gath ydi’r clarinét a'r baswn ydi'r tad cu. Tri chorn Ffrengig sy'n cynrychioli'r blaidd cas, tra bod llinynnau'r gerddorfa yn cynrychioli Pedr, a'r drwm bas a'r tympani yw'r heliwr ac ergydion ei wn hela!

Yn ystod yr wythnos cyn y Nadolig darlledir pum rhaglen fer yn ystod Awr Fawr ar S4C fydd yn cyflwyno pob offeryn a chymeriad yn Pedr a'r Blaidd. Bydd rhaglen tu ôl i'r llen ymlaen ar 23 Rhagfyr fydd yn dangos Trystan Ellis-Morris, cyflwynydd Cyw ar S4C yn teithio i Rwsia i chwarae ar biano Prokofiev ei hun cyn y darllediad o Pedr a'r Blaidd ar ddiwrnod Nadolig.

Meddai Sioned Wyn Roberts, Comisiynnydd Cynnwys S4C:

"Pan laniodd y syniad yma ar fy nesg wnes i ddim darllen yr ail baragraff hyd yn oed – roeddwn i'n gwybod yn syth fy mod i eisiau i'r rhaglen hon gael ei chomisiynu. Mae'n syniad mor gyffrous a diddorol, a mi fydd yn wych i ni gael y clasur yma yn y Gymraeg o'r diwedd, a hynny gyda Dona Direidi a Rhys Ifans yn rhan o'r sioe! Mi fydd yn ffordd wych i ni gyflwyno gwasanaeth Cyw S4C i gynulleidfa newydd hefyd."

Meddai Peryn Clement-Evans, Cyfarwyddwr Artistig Ensemble Cymru:

"Mae pawb yn Ensemble Cymru, ensemble preswyl Prifysgol Bangor a Venue Cymru, wedi cyffroi'n fawr i weld y cynhyrchiad yma ddod at ei gilydd o’r diwedd. Mae dod â stori sy’n adnabyddus ar draws y byd a cherddoriaeth ryfeddol Prokofiev i deuluoedd ar draws Cymru ar deledu, cryno ddisg, a pherfformiadau byw yn rhywbeth na allwn i fyth fod wedi’i ddisgwyl wrth ddechrau'r prosiect dair blynedd yn ôl.

'Da' ni hefyd yn edrych ymlaen at glywed rapwraig fwyaf euraidd a phinc Cymru yn perfformio cerddoriaeth Gareth Glyn ar y cyd â cherddorion cerddorfa Ensemble Cymru gyda help plant Cymru wrth gwrs. Bydd Dona Direidi yn siŵr o gadw trefn ar ambell i aelod o'r gerddorfa!"

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?