S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

3 enwebiad BAFTA Plant 2013 i S4C

22 Hydref 2013

Cyhoeddwyd heddiw (22 Hydref) bod S4C wedi derbyn 3 enwebiad BAFTA Plant UK 2013.

Mae rhaglen ryngweithiol S4C Y Lifft wedi cael ei henwebu yng nghategori aml blatfform BAFTA Plant 2013.

Roedd y rhaglen hon yn torri tir newydd ym myd darlledu plant ym Mhrydain pan gafodd ei darlledu gyntaf yn 2012 gan fod modd i blant wylio'r gyfres gwis ar y teledu wrth chwarae'r gemau ar y cyd ar ail sgrin yn eu cartrefi a hynny ar ffôn neu dabled.

Cynhyrchir Y Lifft gan Boom Pictures Cymru ar y cyd â chwmni Cube Interactive, ac mae CBBC bellach wedi prynu fformat y gyfres er mwyn creu fersiwn Saesneg o gêm ryngweithiol debyg o'r enw Ludus.

Mae'r ail enwebiad yn mynd i Cyw, Gwasanaeth Plant Meithrin S4C, a hynny yng nghategori Sianel y Flwyddyn. Cynhyrchir Cyw gan Boom Pictures Cymru. Y sianeli eraill sydd yn cystadlu am y wobr yw Cartoon Network, CBeebies a Disney Junior.

Mae'r rhaglen Ha Ha Hairies, cyd-gynhyrchiad rhwng S4C ac Adastra Creative hefyd wedi derbyn enwebiad a hynny yn y categori Cymeriadau Byw i Blant Iau (Pre-school Live Action). Mae’r cynhyrchiad yn gyfarwydd i gynulleidfa S4C fel Bla Bla Blewog.

Cyhoeddir yr enillwyr mewn Seremoni Wobrwyo nos Sul 24 Tachwedd eleni.

Diwedd

Nodiadau:

Enwebiadau Gwobrau BAFTA Plant (UK) 2013 - http://static.bafta.org/files/bafta-childrens-awards-nominations-list-2013-01-2070.pdf

Enwebwyd Cyw yng nghategori Sianel y Flwyddyn yn 2009, 2010 a 2012.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?