S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Criw S4C yn darganfod bryngaer o'r Oes Haearn

30 Hydref 2013

Mae criw sy'n cloddio yn arbennig ar gyfer rhaglen S4C wedi dod o hyd i amryw o olion o oes yr haearn sydd erioed wedi eu darganfod o'r blaen - gan gynnwys Bryngaer nad oedd neb yn ymwybodol ohoni cyn hyn.

Mae'r criw sy'n cloddio a ffilmio ar gyfer y gyfres Archaeoleg a gaiff ei darlledu ar S4C flwyddyn nesaf wedi dadorchuddio olion bryngaer, cerrig a arferai gael eu saethu o gatapwlt wrth ymladd neu hela a chrochenwaith; hyn oll o Oes yr Haearn, yn ogystal â seiliau melinwynt a godwyd yn ystod yr unfed ganrif ar bymtheg a nodweddion a alla fod yn dŷ crwn.

Daeth yr olion i'r fei ar safle Twmpath Y Felinwynt, neu Mont Mawr fel y gelwir yn lleol gan drigolion pentref Mawdlam sydd ger Cynffig yn ardal Pen-y-Bont ar Ogwr.

Meddai Iestyn Jones, archaeolegwr a chyflwynydd y gyfres:

"Tan i ni gloddio roedd hanes ardal Cynffig yn cael ei ddisgrifio fel canol oesol gan fod olion hen gastell normanaidd o dan y twyod ddim yn bell o'n safle ni, ond erbyn hyn rydyn ni'n gwybod bod pobl yn byw yno cyn, ac yn ystod yr Oes Rufeinig, a hynny reit ar bwys ble mae'r M4 nawr!

"Mae fe'n safle hynod achos bod 'na dystiolaeth bod pobl wedi bod yn defnyddio'r bryn am dros 2000 o flynyddoedd a tan yn ddiweddar doedd bron neb yn sylwi bod y bryn yno o gwbl!"

Mae'r safle bellach wedi ei ail-orchuddio a'r criw wedi symud ymlaen i'r safle nesaf.

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?