S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Tro Ni – Pobl ifanc yn rhedeg y sioe yn S4C!

08 Tachwedd 2013

 Mi fydd S4C yn rhoi’r Sianel yn nwylo’r genedlaeth iau yn ddiweddarach y mis yma wrth gynnal tymor ‘Tro Ni’.

Rhwng dydd Sadwrn 16 Tachwedd a dydd Sul 24 Tachwedd mi fydd pobl ifanc Cymru yn meddiannu'r Sianel yn ystod, a rhwng y rhaglenni. O gyfansoddi'r gerddoriaeth fydd i'w chlywed ar y Sianel, i leisio negeseuon y cyflwynwyr, dylunio'r clipiau rhwng rhaglenni ac ymddangos mewn llefydd annisgwyl– nhw fydd yn gofalu ac yn gyfrifol am bryd a gwedd y Sianel ac yn cyfrannu i nifer o raglenni.

Bydd nifer o raglenni arbennig ar gyfer pobl ifanc yn cael eu dangos yn ystod tymor Tro Ni hefyd gan gynnwys y ffilm Dyma Fi . O chwarae mewn band i ymladd cawell, o fyw gyda chrydcymalau i fyw mewn hostel – golwg ar fywydau amrywiol wedi eu plethu yn un tapestri lliwgar yw'r ffilm arbennig hon.

Mi fydd dwy o ffilmiau cynllun hyfforddi It's My Shout - ffilmiau byr gan yr ysgrifennwyr newydd Elgan Rhys a Ciron Gruffydd hefyd yn cael eu darlledu yn ystod yr wythnos, a mi fydd ambell i berson ifanc yn cyrraedd llefydd anghyfarwydd, megis o flaen y camera yn cyflwyno'r gyfres Ffermio! Felly – pobl ifanc Cymru fydd yn rhedeg y sioe.

Meddai Comisiynydd rhaglenni pobl ifanc S4C, Sioned Wyn Roberts:

"Mae criw o bobl ifanc rhwng 18 a 24 oed wrthi'n gweithio ar y tymor hwn fel prosiect. Nhw sydd wedi meddwl am yr enw, y logo – y cwbl lot. Mi fydd y Sianel yn edrych yn reit wahanol, a mi fydd yn dipyn o sioc i'r gwylwyr adra dwi'n siŵr! Mae S4C yn Sianel i bawb felly mae'n gret cael pasio'r awenau at griw ifanc fel hyn a rhoi cyfle iddyn nhw ddangos eu sgiliau a dangos be maen nhw eisiau ei weld hefyd. Dwi'n edrych ymlaen yn fawr at weld y gwaith terfynol ar y sgrin."

Mae’r criw dan sylw yn Brentisiaid Cyfryngau Creadigol a Digidol Lefel Uwch (Llwybr Cyfryngau Rhyngweithiol) gyda Cyfle, y cwmni hyfforddi ar gyfer y diwydiannau creadigol, digidol a chyfryngol, sydd a’i swyddfa yng Nghanolfan Gyfryngau S4C yng Nghaerdydd.

Mae Cyfle yn cyflwyno a rheoli’r Brentisiaeth ar ran Creative Skillset Cymru (Cyngor Sgiliau’r Sector Diwydiannau Creadigol) a Prentisiaethau Coleg Caerdydd a’r Fro (CAVCA).

Mae’r rhaglen Brentisiaeth Lefel 4 hon yn rhan o brosiect sydd yn cael ei gefnogi gan Raglen Beilot y Gronfa Blaenoriaethau Sector (CBSP) Llywodraeth Cynulliad Cymru sydd yn derbyn cefnogaeth ychwanegol gan y Gronfa Gymeithasol Ewropeaidd.

Bydd y naw prentis yn rhoi eu sgiliau ar waith wrth fynd ati i baratoi ar gyfer y tymor

"Ry' ni'n paratoi'r indents fydd yn mynd rhwng y rhaglenni a 'da ni am wneud nhw gan ddefnyddio animeiddiadau llun wrth lun, ac yn creu'r gerddoriaeth i gyd-fynd â nhw." Esbonia Jamie Willetts sy'n 18 oed ac yn dod o Bontypridd. "Mae rhai ohonom ni yn dda am olygu, eraill yn dda efo ffotograffiaeth a rhai eraill yn well ar yr ochr gerddorol, felly mae'n waith prosiect go iawn."

"Roedden ni'n cael rhyddid llwyr i feddwl am unrhyw beth o ran delweddau a cherddoriaeth - roedden nhw isio rhywbeth ifanc, newydd a ffres." Meddai Ben Palit sy'n 19 oed ac yn dod o Gaerdydd. "Mi weithion ni ar lot o syniadau gwahanol, wedyn mi wnaeth criw yn S4C wedi dewis rhestr fer felly ry' ni'n canolbwyntio ar y rheiny nawr, ac wedi iddyn nhw ddewis y syniad maen nhw'n hoffi orau fyddwn i'n mynd ati i gael hwnnw yn barod."

Ydy'r criw yn gweld hwn fel cyfle da i roi'r hyn maen nhw wedi'i ddysgu ar waith felly?

"O yn bendant, ry' ni wedi cael cyfle gwych!" Meddai Ciaran Hiscox sy'n 20 ac yn dod o Aberdâr. "Dwi wedi son wrth rhai pobl nôl ym Merthyr am y prosiect ac maen nhw'i gyd reit genfigennus felly dwi'n teimlo'n lwcus iawn."

"Mi fydd hi'n rhyfedd gweld y cwbl ar y teledu," meddai Hannah Deakon, 19 oed o Ddinas Powys. "Fyddai ddim yn coelio pan nai newid y Sianel a gweld ein gwaith ni , dwi'n siŵr pan welwn ni o fydd yn anodd coelio mai ni sy'n gyfrifol am y cwbl - y gerddoriaeth, yr animeiddiadau a bob dim! Dwi'n edrych ymlaen at weld o."

Byddwch yn barod i weld gwaith y criw ar y Sianel yn ystod Tro Ni - Tymor Pobl Ifanc S4C rhwng 16 a 24 Tachwedd.

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?