S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Holi Huw Edwards ar y Maes

01 Awst 2014

Mi fydd y newyddiadurwr a'r darlledwr Huw Edwards yn trafod ei waith a'i farn ar newyddiaduraeth Gymraeg ar faes Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr 2014.

Ar brynhawn Iau, 7 Awst, am 1 o'r gloch, bydd y darlledwr newyddion BBC o Langennech yn cael ei holi mewn sesiwn arbennig ym Mhafiliwn S4C ar Faes yr Eisteddfod.

Ymhlith pynciau eraill, bydd Huw Edwards yn trafod ei ddiddordeb mewn hanes Cymru a'i waith diweddaraf yn ysgrifennu llyfr am hanes Capeli Cymraeg Llundain. Mi fydd yn ymchwilio'r pwnc ymhellach mewn cyfres deledu ar S4C yn 2015.

Bydd hefyd yn sôn am y pynciau fu dan sylw yn ei gyfres ddiwethaf ar y sianel, Creu Cymru Fodern a ddarlledwyd ym mis Mawrth 2014, ble bu'n olrhain hanes gweddnewid Cymru dros y 250 mlynedd diwethaf.

Comisiynydd Cynnwys Ffeithiol S4C yw Llion Iwan.

Meddai Llion Iwan, "Mae Huw Edwards yn wyneb sy'n gyfarwydd ar draws Prydain fel un o brif gyflwynwyr newyddion y BBC. Ond bydd nifer yn ardal leol yr Eisteddfod eleni hefyd yn ei adnabod fel un o feibion y fro, ag yntau wedi ei fagu yn Llangennech. Dyma gyfle i'w glywed yn trafod ei waith a'i yrfa ac hefyd am ei ddiddordeb personol mewn hanes Cymru."

Mae'r sesiwn yn cael ei chynnal am 1.00 brynhawn Iau 7 Awst, ym Mhafiliwn S4C. Nid oes angen tocyn - cyntaf i'r felin.

Mae amserlen lawn o holl ddigwyddiadau S4C ar faes Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr 2014 ar gael ar s4c.co.uk/caban

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?