S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Ffilm newydd S4C i'w gweld yn lleol yn gyntaf

09 Rhagfyr 2013

Bydd pobl Ceredigion ymhlith y cyntaf i weld ffilm newydd Y Syrcas ar y sgrin fawr, cyn iddi gael ei darlledu ar S4C ar Ŵyl San Steffan.

Cafodd Y Syrcas ei ffilmio yn ardal Tregaron, Pontrhydfendigaid a Llangeitho. Yn ysbrydoliaeth i'r stori mae'r hanes lleol bod syrcas wedi ymweld â Thregaron yn 1848, a bod yr eliffant wedi marw, a'i gladdu yng ngardd gefn tafarn Y Talbot.

Gan ddechrau ar brynhawn Sadwrn 14 Rhagfyr, bydd y ffilm yn cael ei dangos yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth am gyfnod byr. Bydd hi'n cael ei darlledu ar deledu am y tro cyntaf fel un o uchafbwyntiau amserlen Nadolig S4C ar Ŵyl San Steffan, 26 Rhagfyr, am 7.00.

Yn serennu yn y ffilm mae Aneirin Hughes, fel y gweinidog llawdrwm Tomos Ifans, a Saran Morgan sy'n chwarae rhan ei ferch Sara, sy'n cael ei swyno gan y syrcas ac yn dod i feddwl y byd o Affrica, yr eliffant. Maen nhw'n rhan o gast amlddiwylliannol ac mae'r cynhyrchiad yn gymysgedd o ieithoedd - Cymraeg, Saesneg, Ffrangeg, Gwyddeleg, a'r dafodiaith Affricanaidd, Yoruba.

Dywedodd Gwawr Martha Lloyd, Comisiynydd Drama S4C, "Mae Y Syrcas yn ffilm liwgar a thwymgalon fydd yn llenwi'r sgrin gyda chyffro ac antur y syrcas deithiol. Mae diolch i drigolion Tregaron, Pontrhydfendigaid, Llangeitho a'r ardal am eu cydweithrediad yn ystod y cyfnod ffilmio, ac mae'n braf gallu rhoi'r cyfle i bobl leol fod ymhlith y cyntaf i'w gweld, cyn y darllediad ar S4C ar Ŵyl San Steffan."

Mae'r ffilm yn gynhyrchiad gan fFATTI fFILMS ar gyfer S4C mewn cyd weithrediad ag Aimimage, ac mi fydd yn cael ei gwerthu yn rhyngwladol.

Bydd y ffilm hefyd yn cael ei dangos yn sinema Reel, Port Talbot a Phafiliwn Pier Penarth cyn y Nadolig a hefyd Canolfan Gelfyddydau Chapter, Caerdydd ym mis Ionawr. Mae'r tocynnau yn cael eu gwerthu drwy swyddfeydd y theatrau unigol. Mi fydd yn cael ei dangos yn y theatrau gydag isdeitlau Saesneg.

Diwedd

Nodiadau:

Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth: www.aberystwythartscentre.co.uk/ 01970 62 32 32

Reel Cinema, Port Talbot: www.reelcinemas.co.uk/ 01509 221155

Pafiliwn Pier Penarth: www.penarthpavilion.co.uk/ 02920 712100

Chapter: www.chapter.org/ 029 2030 4400

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?