S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Sebon S4C yn dathlu milfed pennod

14 Ionawr 2014

Mae un o gyfresi mwyaf poblogaidd S4C yn dathlu carreg filltir fawr wrth i'r gyfres sebon Rownd a Rownd ddarlledu ei milfed pennod heno (nos Fawrth 14 Ionawr 7.30).

Ac ar gyfer y milfed pennod, bydd stori gyffrous yn gweld tân yn y pentref wrth i garafan ffrwydro a llosgi'n ulw.

Ond pwy sy'n gyfrifol am y tân? Gyda sawl person yn y ffrâm, bydd gwylwyr yn dyfalu am rai wythnosau eto pwy sy'n euog, cyn i rywun ddod o flaen ei well.

Mae dros ddeunaw mlynedd bellach ers i'r gyfres gyrraedd y sgrin am y tro cyntaf ym mis Medi 1995, ac mae'r garreg filltir yn destun balchder i'r uwch gynhyrchwyr, Sue Waters a Robin Evans o gwmni Rondo yng Nghaernarfon.

"Mae cyrraedd y milfed pennod yn glod i bawb sydd wedi gweithio ar y gyfres dros y blynyddoedd, y cast a'r criw. Does neb yn synnu mwy na fi ein bod ni dal yma, bron ugain mlynedd yn ddiweddarach!" meddai Sue Waters, Uwch Gynhyrchydd Drama cwmni Rondo, sydd wedi gofalu am Rownd a Rownd ers y cychwyn cyntaf, ynghyd â'i chyd gynhyrchydd Robin Evans.

"Mae diolch hefyd i bawb ym Mhorthaethwy am fod mor gefnogol ers y dechrau," ychwanega Sue, gan dalu teyrnged i drigolion y pentref yn Sir Fôn sydd yn gartref i'r set.

"Roedd gennym ni cwta ddeng wythnos i drawsnewid yr hen warws arwerthwyr ffenestri yng nghanol y pentref i fod yn set i'r ddrama, ac ry ni dal yno nawr - er wrth gwrs fod newidiadau wedi bod dros y blynyddoedd."

Yn ogystal â datblygu’r set, mae cynnwys a strwythur y gyfres wedi newid hefyd. Fe'i lansiwyd ym 1995 fel cyfres ddrama fer ar gyfer plant a phobl ifanc wedi ei selio ar rownd bapur. Er ei bod hi wedi glynu at ei gwreiddiau, gyda'r cast ifanc yn dal yn ganolog i'r stori, dros y blynyddoedd mae hi wedi ehangu i gynnwys mwy o gymeriadau sy'n oedolion gan fynd â'r stori y tu hwnt i'r rownd bapur newydd a chynnwys themâu mwy aeddfed.

Yn atgyfnerthu hyn mae'r newid sylweddol diwethaf i'r gyfres. Ym mis Ebrill 2013 fe symudwyd y sebon o'i slot cynnar yn y nos am 6.10 i ganol yr amserlen am 7.30 bob nos Fawrth a nos Iau.

"Mae Rownd a Rownd wedi datblygu dros y blynyddoedd. Mae hi wedi tyfu lan gyda'i chynulleidfa ac wedi aeddfedu gyda'r gwylwyr," meddai Sue, gan awgrymu bod mwy ar droed yn 2014. "Ry ni'n edrych ymlaen at y mil o benodau nesa’, ac mae yna newidiadau mawr ar y gweill ar gyfer y flwyddyn i ddod. Bydd rhaid i chi barhau i wylio er mwyn gweld beth sydd ar droed!"

Dywedodd Comisiynydd Drama S4C, Gwawr Martha Lloyd, "Mae clod mawr i bawb sydd yn, ac wedi bod, ynghlwm â'r gyfres. Mae Rownd a Rownd yn cyrraedd y garreg filltir sylweddol hon ar ddechrau blwyddyn gyffrous fydd yn ei gweld hi'n esblygu ac yn aeddfedu ymhellach, fel mae hi wedi gwneud gyda phob blwyddyn ar y sgrin. Mae stori ddramatig y milfed pennod yn dyst o'r cyffro fydd yn ein cadw ni'n glwm i'r sgrin am flynyddoedd i ddod."

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?