S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Y Gweilch v Benetton Treviso yn fyw ar S4C

29 Ionawr 2014

Yn dilyn newid amser gall S4C gyhoeddi bydd y gêm Gynghrair Rabodirect Pro 12 rhwng Y Gweilch a Benetton Treviso yn Stadiwm Liberty nawr yn cael ei darlledu’n fyw ar Y Clwb Rygbi Dydd Sul, 16 Chwefror. Cic gyntaf am 4:00yh.

Gyda nifer o chwaraewyr profiadol Y Gweilch yn rhan o garfan Chwe Gwlad Cymru mi fydd y gêm hon yn gyfle gwych i rai o dalentau ifanc y rhanbarth ddangos eu doniau. Ar hyn o bryd mae’r Gweilch yn drydedd yn y Gynghrair, 4 pwynt tu ôl i Munster sydd ar y brig.

Mae Y Clwb Rygbi yn gynhyrchiad BBC Cymru Wales ar gyfer S4C.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?