S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Dyma'r chwe chân fydd yn cystadlu am wobr Cân i Gymru 2014

04 Chwefror 2014

   Heddiw (dydd Mawrth, 4 Chwefror) mae rhestr y cyfansoddwyr fydd yn cystadlu am dlws Cân i Gymru 2014, a'r wobr o £3500, wedi ei chyhoeddi.

Eleni, bydd y gystadleuaeth yn cael ei chynnal mewn lleoliad newydd; ym Mhafiliwn Môn, Gwalchmai ar nos Wener, 28 Chwefror. Un o gyflwynwyr y noson fydd y gantores leol Elin Fflur a bydd y gystadleuaeth yn cael ei dangos yn fyw ar S4C.

Y caneuon a'r cyfansoddwyr yw:

Aderyn y Nos - Gruff Siôn Rees - Mae Gruff yn gerddor ac yn gyfansoddwr sydd hefyd yn gweithio fel cyfarwyddwr a chynhyrchydd teledu. Mae'n hanu'n wreiddiol o Ddyffryn Aman ond bellach yn byw yng Nghaerdydd. Mae neges ei gân wedi'i seilio ar anghydfod yn y sin gerddoriaeth Gymraeg heddiw.

Agor y Drws - Joseff Owen, Marged Gwenllian, Ifan Edwards ac Alun Roberts - Dyma bedwar aelod band ifanc Y Cledrau o ardal Y Bala. Nhw fydd yn perfformio'r gân ar y noson, ac maen nhw wrth eu bodd fod eu cerddoriaeth yn mynd i gael ei chlywed ar lwyfan Cân i Gymru.

Ben Rhys - Gwilym Bowen Rhys a Siân Harris - Dyma'r ail dro i Gwilym, prif ganwr Y Bandana, a'i fam, Siân, gyrraedd rhestr fer Cân i Gymru ar ôl iddyn nhw gystadlu yn 2012. Mae'r gân werinol wedi'i seilio ar hanes aelod o'r teulu a laddwyd yn un o byllau glo de Cymru.

Brown Euraidd - Kizzy Meriel Crawford - Yn y ddwy flynedd ddiwethaf, mae'r ferch 17 oed o Ferthyr Tydfil wedi ennill bri am ei chaneuon unigryw yn y Gymraeg a'r Saesneg. Mae ei chân yn delio â rhagfarn, ac yn datgan bod pawb yn brydferth y tu mewn.

Dydd yn Dod - Ifan Davies a Gethin Griffiths - Mae'r ddau yn fyfyrwyr ym Mhrifysgol Bangor a dyma'r tro cyntaf iddyn nhw gyfansoddi gyda'i gilydd er eu bod nhw'n perfformio yn gyson mewn nosweithiau meic agored. Mae'r gân yn sôn am obaith pan fydd rhywun mewn cyfnod tywyll.

Galw Amdanat Ti - Barry a Mirain Evans - Mae Barry yn aelod o grŵp gwerin Y Moniars a dyma'r tro cyntaf iddo gyfansoddi gyda'i ferch Mirain. Mae Galw Amdanat yn gân am gariad, a Mirain fydd yn ei pherfformio ar y noson. Er ei bod hi'n edrych ymlaen at y profiad, mae ei thad yn llawn nerfau!

Bydd pob cyfansoddwr, neu dîm cyfansoddi, yn derbyn hyd at £900 i'w wario ar dreulio amser mewn stiwdio o'u dewis a pharatoi'r gân ar gyfer y rownd derfynol.

Bydd cadeirydd panel y rheithgor, y cerddor Siôn Llwyd, yn trafod y dewisiadau ar raglen C2 Ifan Evans heno, gyda'r rhaglen yn dechrau am 7.00 o'r gloch. Rhannwch eich barn ac ymunwch yn y drafodaeth drwy ddefnyddio #CIG2014 ar Twitter neu ar y dudalen Facebook – facebook.com/canigymru

Wrth ymateb i'r caneuon sydd wedi eu dewis ar gyfer y rhestr fer, dywedodd Siôn Llwyd, "Eleni mae croestoriad eang o ganeuon wedi cyrraedd y brig ac mae'n galonogol, wrth weld yr enwau, mai cyfansoddwyr a pherfformwyr ifanc sydd wrth wraidd y caneuon i gyd. Mae hyn yn braf ei weld ac yn arwydd iach ar gyfer cerddoriaeth Gymraeg."

Swyddogaeth Siôn fel cadeirydd y rheithgor oedd llywio'r trafod, ond barn aelodau'r panel oedd yn gyfrifol am ddewis y chwe chân. Ymhlith aelodau'r panel eleni mae enillwyr tlws 2013, Osian Williams a Rhys Gwynfor, o'r band Jessops a'r Sgweiri.

Gyda nhw mae Alys Williams, fu'n cystadlu ar The Voice ac sydd wedi perfformio ar Cân i Gymru yn y gorffennol; Gwenda Owen, cantores o Gwm Gwendraeth sydd â blynyddoedd o brofiad yn y diwydiant; a Neil 'Maffia' Williams o'r grŵp roc Maffia Mr Huws.

Ewch i wefan Cân i Gymru - s4c.co.uk/canigymru - am ragor o wybodaeth am y gystadleuaeth ac i glywed y gân ddaeth i'r brig yn 2013, Mynd i Gorwen efo Alys.

Diwedd

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?