S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Rhaglenni dogfen S4C ar restr fer un o wyliau ffilm a theledu mawr yr UDA

14 Chwefror 2014

Mae dwy raglen ddogfen rymus a gafodd eu darlledu ar S4C ar y rhestr fer ar gyfer un o wobrau teledu a ffilm rhyngwladol mawr yr Unol Daleithiau.

Mae'r ffilm ddogfen O'r Galon: Karen a'r gyfres ddogfen Taith Fawr y Dyn Bach – a gafodd eu cynhyrchu gan gwmni teledu Cwmni Da o Gaernarfon – wedi cael eu henwebu ar gyfer rownd derfynol y New York Festivals Awards 2014.

Mae'r ddau gynhyrchiad, a gafodd eu darlledu ar S4C yn 2013, ar y rhestr fer yn y categori Achosion Dynol yn y genre Dogfen/Gwybodaeth.

Mae Karen – rhan o'r gyfres ddogfennol O'r Galon ar S4C - yn bortread ffilm emosiynol o Karen Williams o Llannerch-y-medd, Ynys Môn yn ystod dyddiau olaf ei bywyd wrth iddi frwydro'n ddewr yn erbyn canser.

Mae Taith Fawr y Dyn Bach yn dilyn James Lusted o Fae Colwyn sydd â chyflwr o'r enw diastrophic dysplasia, sef ffurf brin o gorachedd, wrth iddo fynd ar daith bersonol i ddod i nabod nifer o bobl anabl ledled Cymru.

Meddai Comisiynydd Cynnwys S4C, Llion Iwan, "Mae'r ddau gynhyrchiad yma'n portreadu dewrder pobl yn erbyn y ffactorau. Mae'r enwebiadau yma'n deyrnged yn gyntaf oll i'r rhai a gymerodd ran yn y rhaglenni.

"Mae'r rhaglenni'n adlewyrchu ymroddiad S4C i adlewyrchu pob math o bobol, yr abl a'r anabl. Mae'r gyfres Taith Fawr y Dyn Bach yn fformat gwbl unigryw i S4C.

"Hoffwn longyfarch y timau cynhyrchu yn Cwmni Da wrth bortreadu'r bobl ddewr yma mewn ffordd mor onest a sensitif. Mae'n gryn gamp i dderbyn dau enwebiad mewn gŵyl ryngwladol mor bwysig ac mae'n adlewyrchu eu creadigrwydd a'u hymrwymiad i gynhyrchu teledu gafaelgar."

Mae cannoedd o enwebiadau o ragor na 50 o wledydd wedi cael eu hystyried ar gyfer y gwobrau ffilm a theledu rhyngwladol hyn.

Bydd y ddwy raglen yn cystadlu am dlws Aur, Arian neu Efydd, gyda phob rhaglen a enwebwyd yn derbyn Tystysgrif Rownd Derfynol. Yn y categori hwn, mae'r rhaglenni yn cystadlu yn erbyn cynyrchiadau o Siapan, Rwsia, Singapor, De Corea, Taiwan, gweddill y Deyrnas Unedig a'r Unol Daleithiau.

Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi ar 8 Ebrill mewn seremoni arbennig yn Las Vegas.

Fe wnaeth rhaglen ddogfen arall gan S4C, Fy Chwaer a Fi, ennill Aur yn y categori Achosion Dynol y llynedd.

Meddai Beca Brown, cynhyrchydd y gyfres Taith Fawr y Dyn Bach,"Dwi'n falch iawn o lwyddiant y gyfres yma, a'n bod ni wedi cael y cyfle i roi llais i'r gymuned anabl a dangos mai pobol yw pobol waeth be fo'u hamgylchiadau. Mae James yn gyflwynydd didwyll ac yn gymeriad sy'n benderfynol o fyw bywyd i'r eithaf. Rydym yn y broses o baratoi ail gyfres, gyda'r bwriad o barhau i agor llygaid pobol i fywydau'r rhai sydd ag anableddau o bob math."

Meddai James Lusted, "Pan glywais i'r newyddion am yr enwebiad doeddwn i'n methu coelio i ddechrau bod y gyfres wedi cael cydnabyddiaeth mewn cystadleuaeth fyd-eang. Mae'n bleser mawr iawn a dwi'n ddiolchgar iawn i fy nheulu ac i'r tîm cynhyrchu am yr holl gefnogaeth. Dwi'n ffodus iawn o fod wedi cael y cyfle i gyfarfod cyfranwyr mor ddifyr, ac mae pob un ohonyn nhw wedi fy ysbrydoli i mewn gwahanol ffyrdd. Y peth mwyaf sydd wedi aros efo fi ers gwneud y gyfres ydi bod pawb yn gallu gwneud rhywbeth, a bod angen gweld y person cyn yr anabledd."

Meddai Meinir Gwilym, cynhyrchydd y rhaglen O’r Galon: Karen, “Rydw i’n falch iawn bod y rhaglen wedi cyrraedd y rownd derfynol. Dwi’n gwybod y bydd teulu Karen yn falch hefyd. Ei phersonoliaeth ddisglair hi yw prif gryfder y ffilm.”

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?