S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Amrywiaeth eang o enwebiadau ar gyfer yr Ŵyl Cyfryngau Celtaidd

17 Chwefror 2014

Mae rhaglenni S4C wedi derbyn 12 enwebiad dros naw categori gwahanol ar gyfer yr Ŵyl Cyfryngau Celtaidd 2014.

Caiff yr Ŵyl Cyfryngau Celtaidd ei chynnal yn St Ives yng Nghernyw rhwng 2 a 4 Ebrill eleni, yn dilyn yr ŵyl lwyddiannus yn Abertawe y llynedd.

A bydd S4C yn gobeithio adeiladu ar lwyddiant y llynedd, pan enillwyd pedair gwobr.

Mae’r Sianel wedi derbyn dau enwebiad yn y categori Cyfres Ddrama, gyda’r gyfres dditectif poblogaidd Y Gwyll/Hinterland (cynhyrchiad Fiction Factory) ac ail gyfres y ddrama Alys gan Siwan Jones (Teledu Apollo, rhan o Boom Pictures Cymru) yn cystadlu am y wobr.

Rhoddir lle ar ddwy restr fer i ddau gynhyrchiad drama arall, gyda Rownd a Rownd (Rondo Media), sydd newydd ddathlu ei milfed bennod, yn y categori Pobl Ifanc a’r ddrama Tir (Joio Cyf) yn y categori Drama Nodwedd.

Mae dau gynhyrchiad gan yr un cwmni, Cwmni Da, yn cystadlu yn y categori Celfyddydau. Portread o’r bardd Gerallt Lloyd Owen, Gerallt, yw’r naill a rhifyn arbennig o’r sioe gelfyddydol, Pethe, Pethe: Lleisiau Ysbyty Dimbach yw’r llall.

Mae’r ddogfen Defaid a Dringo (Cwmni Da) eisoes wedi ennill llu o wobrau ac mae’r rhaglen sy’n dilyn y dringwr Ioan Doyle yn cystadlu yn y categori Ffeithiol Sengl.

Cyfres arall o stabl Cwmni Da, taith y cyflwynydd a’r bardd Ifor ap Glyn i’r Llefydd Sanctaidd sy’n cael ei lle yn y categori Cyfres Ffeithiol.

Ceir cydnabyddiaeth unwaith eto i ansawdd rhaglenni plant a phobl ifanc, Cyw a Stwnsh, gydag enwebiadau i’r gyfres #Fi (Boom Plant, rhan o Boom Pictures Cymru) a’r rhaglen am hanes y trychineb pwll glo, Senghennydd 1913 (Tinopolis) yn y categori Plant.

Mae prosiect arall i bobl ifanc wedi derbyn enwebiad am y Wobr Kieran Hegarty, sy'n gwobrwyo prosiectau sy'n arloesi.

Roedd Dymafi.TV yn brosiect aml blatfform gan Cwmni Da, oedd yn rhoi golwg unigryw ar fywyd pobl ifanc rhwng 13 ac 18 oed yng Nghymru. Y canlyniad oedd ffilm yn cynnwys deunydd wedi ei ffilmio gan bobl ifanc ar un diwrnod penodol, gan gynnig cofnod amrywiol o un diwrnod cyffredin ym mis Mehefin 2013.

Ac mae cynnyrch animeiddio’r Sianel yn dod i’r amlwg eto hefyd, gyda fersiwn Saesneg o’r gyfres animeiddio i blant, Igam Ogam (Calon/Telegael) yn y ras am wobr yn y categori Animeiddio.

Meddai Cyfarwyddwr Cynnwys S4C, Dafydd Rhys, “Roedd amserlen y llynedd yn llawn cerrig milltir mewn gwahanol genre ac mae hynny’n cael ei adlewyrchu yn yr amrywiaeth eang o enwebiadau mae S4C wedi ei derbyn ar gyfer y gwobrau Gŵyl Cyfryngau Celtaidd. Hoffwn longyfarch pob un o’r cynhyrchwyr a dderbyniodd enwebiadau - mae’n adlewyrchiad o’u creadigrwydd a’u hymdoddiad i greu gwaith o’r safon uchaf. Edrychwn ymlaen at greu argraff ar lwyfan ryngwladol yr Ŵyl Cyfryngau Celtaidd yng Nghernyw.”

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?