S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Mewn 35 diwrnod, mi fydd hi'n gorff: drama iasol newydd S4C

26 Chwefror 2014

  Yn dilyn llwyddiant y ddrama dditectif Y Gwyll/Hinterland, mae S4C wedi cyhoeddi manylion am ei chyfres ddrama ddiweddaraf fydd ar y sgrin ym mis Mawrth - drama ddirgelwch dwys o fath newydd sbon, fydd yn rhoi bywyd yn swbwrbia dan y chwyddwydr.

35 Diwrnod yw enw'r gyfres sy'n dechrau ar S4C am 9.00 o'r gloch nos Sul, 23 Mawrth 2014. Mae wyth pennod y gyfres yn cyflwyno stori ddirgelwch iasol mewn dull newydd fydd yn ein cadw ar flaenau ein seddi, a phob cymeriad yn dod o dan ein hamheuaeth.

Mae hi wedi ei hysgrifennu gan enillydd BAFTA Cymru, Siwan Jones (Con Passionate, Alys, Tair Chwaer) a'r nofelydd a'r sgriptiwr Wiliam Owen Roberts (Cymru Fach, Petrograd, Y Pla). Mae'n gynhyrchiad gan gwmni Teledu Apollo, rhan o Boom Pictures Cymru, dan ofal y cynhyrchydd Paul Jones (Alys, Con Passionate, Martha Jac a Sianco).

Mae'r stori yn dechrau gyda chorff menyw ifanc ddeniadol yn ei chartref ar ystâd o dai moethus. Ar unwaith, 'ry ni'n cael ein taflu yn ôl 35 diwrnod, i'r dydd mae'r fenyw yn symud i'r ystâd. O'r diwrnod hwnnw tan ei marwolaeth, 35 diwrnod yn ddiweddarach, byddwn yn datgloi ei gorffennol hi ac yn dod i wybod cyfrinachau trigolion ystâd Crud yr Awel.

Ar yr ystâd gyffredin yr olwg, mae pechodau yn cuddio y tu hwnt i'r gerddi taclus. Yn raddol bach, o ddydd i ddydd, mae'r bywyd arferol yn dadrithio, a'r craciau yn dechrau ymddangos - a'r cyfan wedi ei sbarduno gan y fenyw ifanc ddeniadol sydd yn dod i blith y cymdogion. Pwy yw hi? Pam ei bod hi yma? A pham fod cymaint yn dymuno ei gweld hi'n dioddef?

Dywedodd Gwawr Martha Lloyd, Comisiynydd Cynnwys Drama S4C, "Mae hon yn ddrama newydd sydd â'i dull gwreiddiol o adrodd stori. Mae Siwan a Wiliam yn storïwyr crefftus sydd wedi llwyddo i greu cast o gymdogion credadwy a gweu eu bywydau mewn modd sy'n ein harwain at droeon annisgwyl yn y ffordd. Bydd dirgelion yr ystâd yn ein cadw ni ar flaenau ein traed - yn dyfalu ac yn ysu am wybod beth ddigwyddodd i'r fenyw ifanc; sut a pham y bu farw."

Bwriad yr awduron, Siwan Jones a Wiliam Owen Roberts, oedd creu drama oedd yn caniatáu i'r gwylwyr chwarae rôl ditectif.

Meddai Siwan Jones a Wiliam Owen Roberts, "Rydym wedi ceisio creu genre'r gyfres dditectif traddodiadol ond trwy dynnu'r cwbl du chwithig allan. Y gwylwyr fydd yn dadansoddi'r digwyddiadau a’r cliwiau. Byddwn yn cynnal y dirgelwch ynglŷn â’r lladd hyd y diwedd un a gadael i’r gynulleidfa ddatrys y gwahanol gymhellion trwy ystyried yr awgrymiadau rydym wedi eu plannu hwnt ac yma. Rydan ni hefyd yn camarwain ac yn gogleisio gydag awgrymiadau a chyfrinachau a all fod yn arwyddocaol - neu ddim."

Ac mae'r gwir am y farwolaeth yn gyfrinach ofalus. Dim ond llond dwrn o bobl oedd yn gwybod canlyniad y stori, ac ni chafodd y manylion eu rhannu gyda'r actorion na'r criw tan wythnosau ola'r ffilmio.

Dywedodd Paul Jones, cynhyrchydd y gyfres, "Roedd yn bwysig ein bod ni'n cadw'r gyfrinach er mwyn sicrhau bod y stori'n gredadwy. Mae'r ddrama i gyd yn digwydd cyn bod y fenyw yn gorff, ac felly does gan y cymeriadau ddim syniad bod trasiedi ar fin taro. Erbyn diwedd y 35 diwrnod, bydd un, neu hyd oed sawl un, o'r cymdogion yn gyfrifol am ei thranc, ond wrth gwrs, dydyn nhw ddim yn gwybod hynny eto! Tasg i'r gwylwyr yw dadansoddi'r amgylchiadau a llunio damcaniaeth eu hunain gyda'r cliwiau fydd yn cael eu gosod fan hyn, fan draw."

Yn chwarae'r brif ran mae'r actores o Borthmadog, Lois Jones, fu'n serennu yn nrama Y Bont, Theatr Genedlaethol Cymru. Hefyd yn y cast mae wynebau newydd a chyfarwydd yn cynnwys Ryland Teifi; Beth Robert; Elin Haf Davies; Aled Bidder; Olwen Rees; Wyn Bowen Harries; Martin Thomas; Ceri Murphy; Eiry Hughes; Rhys ap Hywel; Rhys ap William; Catrin Morgan; Matthew Gravelle.

Diwedd

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?